Swyddfa gastio newydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd

Mae’r Cyfarwyddwr Castio, Hannah Marie Williams o HMW Casting wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer swyddfa gastio newydd yng Nghaerdydd, a fydd yn agor ym mis Ionawr 2022. Mae gwaith HMW Casting yn ymestyn ar draws y DU ac yn rhyngwladol, ac ar ôl cael ei magu yng Nghaerdydd mae hi’n teimlo’n frwdfrydig i gael agor swyddfa gastio gyntaf HMW yng Nghymru gan obeithio dod â mwy o gyfleoedd i dalentau lleol. 

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 January 2022

Mae Hannah wedi gweithio ym maes castio ers 10 mlynedd yng Nghaerdydd a Llundain, gan weithio gyda rhai o Gyfarwyddwyr Castio gorau’r DU, artistiaid castio cefndir ar gyfer ffilm a chyfranwyr ar gyfer rhaglenni dogfen a theledu realiti. Mae'r cymysgedd hwn o brofiad bellach yn llywio arddull Hannah o gastio 'creadigol', gan gymysgu wynebau newydd â thalentau sefydledig ar gyfer ei gwaith fel Cyfarwyddwr Castio ar gyfer y teledu, ffilm a hysbysebion. Mae'r rheini y mae hi wedi gweithio arnynt yn ddiweddar yn cynnwys cyfres deledu 10 rhan, Carthago sy’n serennu Philip Glenister, ffilmiau a enwebwyd gan Bafta Cymru, Pale Saint, The Arborist a Father of the Bride a hysbysebion ar gyfer Facebook. 

Drwy agor swyddfa yng Nghaerdydd, mae Hannah yn gobeithio y bydd mewn sefyllfa dda i gastio’n ddilys a chynrychioli gwead a chymeriad cyfoethog Cymru, creu mwy o gyfleoedd i dalentau o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol a thyfu cymuned fwy i actorion gysylltu â chynyrchiadau lleol.

Meddai Hannah, Rwy’n teimlo’n llawn cyffro am ein man yng Nghaerdydd a'r cyfle sydd gennym i greu rhywbeth arbennig gyda gwreiddiau Cymreig a chyrhaeddiad rhyngwladol.  

I gael rhagor o wybodaeth am HMW Casting ac i gysylltu â ni, ewch i: www.hannahmariewilliams.com

 

HMW logo

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event