Staff Lles CCIC

Cyflog
£85 y dydd (a darperir yr holl fwyd a llety)
Location
Cymru
Oriau
Part time
Closing date
11.04.2022
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 25 March 2022

Rydym yn ceisio creu cronfa o bobl frwdfrydig ac ymroddedig o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ymuno â'n Tîm Lles.

Mae Tîm Lles CCIC yn darparu cymorth hanfodol i bobl ifanc yn yr ensembles ieuenctid cenedlaethol yn ogystal â phrosiectau a rhaglenni. Mae'r rhan fwyaf o'n gweithgarwch ensemble yn digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol, dros yr haf yn bennaf, ond rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Gall ein rhaglen amrywio o weithdai ar-lein i deithiau a phreswylfeydd dros gyfnod hirach. Mae pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn dod atom ac rydym yn mynd i bob cwr o Gymru i gyflwyno ein rhaglenni. 

O ystyried oedran y bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw, mae gennym isafswm oedran o 25 oed ar gyfer y rolau hyn, er nad oes uchafswm oedran. Wrth i ni ymdrechu i greu amgylchedd mor gynhwysol â phosib, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn recriwtio pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys y mwyafrif byd-eang yn ogystal â phobl sydd â phrofiad byw o anabledd. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Cynhelir ein gweithgareddau ledled Cymru ac rydym yn cynnal rhai o'n gweithgareddau'n ddwyieithog, a bydd angen i ni flaenoriaethu siaradwyr Cymraeg ar gyfer rolau penodol.

Mae CCIC yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ymroddedig, a byddem yn annog ymgeiswyr sydd ag anghenion mynediad penodol i gysylltu â ni i sicrhau ein bod yn diwallu'r rhain ar bob cam o'r broses recriwtio.

Dyddiad cau: 11:59pm, Dydd Llun 11 Ebrill 2022

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event