Sbotolau creadigol ar y sefydliad cymunedol, Jukebox Collective

Ym mis Gorffennaf, mae'r sbotolau creadigol ar sefydliad creadigol cymunedol, Jukebox Collective... 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 14 August 2020

Ym mis Gorffennaf, mae'r sbotolau creadigol ar sefydliad creadigol cymunedol, Jukebox Collective, a'r gwaith anhygoel maen nhw'n gwneud. Holon ni ambell gwestiwn am y tîm, eu cennad creadigol a'r prosiectau cyffrous sydd ar y gorwel. Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud...

A allwch chi ddweud wrthym beth rydych chi’n ei wneud?

Rydyn ni'n gydweithredfa greadigol sy'n cael ei harwain gan bobl ddu yn Butetown, Caerdydd. Drwy ein dull o weithio unigryw sydd wedi'i wreiddio yn y gymuned, rydyn ni'n defnyddio dawns a chreadigrwydd i rymuso, cysylltu a goresgyn rhwystrau. 

Ein nod yw creu cymunedau sy’n gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain ar draws Cymru drwy ddathlu hyfrydwch amrywiaeth a chreu lle i’n cymuned fynegi ei hangerdd a chyflawni llwyddiant. Ochr yn ochr â’n rhaglen celfyddydau amlddisgyblaethol, rydyn ni'n creu theatr ac yn rheoli asiantaeth greadigol lle rydyn ni’n cynrychioli artistiaid dawns a chreu gwaith perfformio pwrpasol.

I gydnabod ein gwaith o safon uchel a'n heffaith cymdeithasol, Jukebox Collective oedd y sefydliad cyntaf dan arweiniad pobl ddu i dderbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel un o'i sefydliadau Portffolio Celfyddydau Cenedlaethol. 

Pam ydych chi wedi dewis gweithio yng Nghaerdydd?

Caerdydd fu ein cartref ni erioed. Dyma lle sefydlwyd y cwmni dros 15 mlynedd yn ôl gan Liara Barussi, gan ddechrau fel dosbarthiadau dawnsio stryd a chriwiau dawns lleol. 

Mae'n bwysig i ni barhau â'n gwaith yn lleol gan ein bod yn chwarae rhan greiddiol yn siapio sut caiff cymunedau du a lleiafrifol ethnig eu cynrychioli yn y sector diwylliannol Cymreig ac rydyn ni'n dathlu diwylliant cyfoes Cymru yn ei holl amrywiaeth gyda balchder.

Pwy sydd yn y tîm a beth maen nhw'n ei wneud?

Liara Barussi - Cyfarwyddwr Artistig 

Lauren Patterson - Cyfarwyddwr Strategol

Ally Gibson - Cynorthwyydd Gweithredol

Darnell Williams - Cynorthwyydd Gweinyddol 

Yna mae gennym ni dîm craidd estynedig o diwtoriaid llawrydd sy'n cyflwyno ein dosbarthiadau cymunedol a'n rhaglen academi. Rydyn ni ar hyn o bryd yn edrych am Reolwr Cyfranogi a bydd ein Cydlynydd Marchnata yn dechrau ym mis Awst!

staff

Beth fyddech chi'n  ei newid am y diwydiant creadigol/celfyddydau yng Nghymru?

Chwalu'r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu! Ar hyn o bryd mae'r celfyddydau'n dameidiog iawn gyda llawer o adnoddau'n anhygyrch iawn. Rydyn ni am newid hyn a gwneud byd creadigol Caerdydd yn fwy cynhwysol.

Yng Nghymru fel mewn llawer o lefydd, ceir diffyg amrywiaeth yn y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol ac ymhlith y rheini sy'n dal swyddi 'pwerus' a dylanwadol. Oherwydd hiliaeth systemig mae'r materion hyn wedi gwreiddio a bydd angen cydymdrech gan bawb i wneud y newidiadau rydyn ni'n gobeithio eu gweld. Hoffem i gynrychioliadau mwy amrywiol o dalentau Cymru fod ar y blaen a'n nod yw chwyddo'r lleisiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i greu sîn creadigol cryfach sy'n amrywiol ac sy'n adlewyrchu Cymru'r 21ain ganrif. 

Rydyn ni hefyd yn awyddus i annog mwy o gydweithio. Rydyn ni'n canolbwyntio ar greu cymuned a hyrwyddo diwylliant o rannu adnoddau. Mae creu cysylltiadau rhwng gwahanol bobl greadigol o ddawnswyr i wneuthurwyr ffilm yn hanfodol.

Mae cefnogi talentau newydd hefyd yn chwarae ei ran i wneud y newidiadau rydyn ni'n gobeithio eu gweld. Ar hyn o bryd rydyn ni'n mentora llawer o bobl ifanc yn ein rhaglen Academi ac yn eu cefnogi ar eu teithiau unigol. Rydyn ni'n cysylltu â llawer o bobl greadigol Du a phobl Liw nad ydyn nhw'n Ddu i rannu cyfleoedd cyllido a chyflogaeth gyda nhw i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd pawb.  

Pa brosiect ydych chi'n fwyaf balch ohono?

1.    Digwyddiad Stormzy x Adidas Originals 

Fel rhan o'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn ein hasiantaeth greadigol, buom yn gweithredu fel Ymgynghorwyr i Superimpose Global i gastio talent a churadu digwyddiad lansio Stormzy x Adidas Originals yn Llundain.  Roedd y prosiect yn ymwneud â chysylltu ysbryd creadigol gyda'r gymuned mae'n deillio ohoni. Gwahoddwyd myfyrwyr o 800 ysgol ar draws Llundain ynghyd â gwahoddedigion o grwpiau cymunedol i berfformiad theatrig byrfyfyr oedd yn cynnwys perfformiad gan Stormzy.

Aethom ati i ganfod a briffio pedwar grŵp ieuenctid i greu ailddehongliadau arloesol o ganeuon enwog Stormzy. Ni chyflwynwyd yr actiau, oedd yn ffrwydro o'r gofod drwy oleuadau dynamig a chynnwys pwrpasol wedi'i daflunio. Mewn cyfres o berfformiadau 10 munud, gosododd cerddorfa, côr, grŵp drama a dawns dan arweiniad pobl dduon eu crefft i gerddoriaeth Stormzy, a cherddoriaeth Stormzy i'w crefft nhw, gyda pherfformiad geiriol yn plethu drwy'r cyfan oedd yn rhoi bywyd i gysyniad 'Ysbryd Cynhenid'. 

Stormxy

2.    Ghana - Taith Gwmpasu 

Yn 2019 teithiodd Liara a Lauren i Ghana fel rhan o daith cwmpasu creadigol a gyllidwyd gan Gronfa Symudedd Celfyddydau British Council Cymru. Caniataodd y daith ni i ddeall tirlun creadigol Ghana a chysylltu ag artistiaid sy'n herio ac yn ailfeddiannu eu naratifau eu hunain.  

Cyfarwyddwr Artistig Liara Barussi a Chyfarwyddwr Strategol Lauren Patterson yn Ghana. 

Ghana

3.    Arddangosiad Blynyddol yr Academi

Cyflwynodd arddangosiad blynyddol Academi Jukebox 2019 gyfres o waith creadigol gan ein hartistiaid ifanc newydd. Bu myfyrwyr yn gweithio gyda dawns, cerddoriaeth, theatr, set, gwisgoedd a drama i gynhyrchu arddangosiad amlddisgyblaethol yn amlygu eu talentau unigol. 

Showcase

Mentorwyd a chyfarwyddwyd gan @liarabarussiCoreograffi gan y myfyrwyr @reuelelijah @katemorange @ramellewilliams @brookeplague @geeo_rose @dflexofficial Darnau drama wedi'u hysgrifennu a'u cyfarwyddo gan @tristanfaiduenu 

Sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eich gwaith? Sut ydych chi i gyd yn cadw cysylltiad ar hyn o bryd?

Mae COVID-19 wedi golygu bod ein holl ddosbarthiadau dawns cymunedol wedi peidio yn ogystal â'n rhaglen Academi. Ers y cyfnod clo, rydyn ni wedi symud ein dosbarthiadau ar-lein gan eu cynnig am ddim i'n cymuned. Un o uchafbwyntiau COVID-19 i ni oedd trefnu taith ar-lein i Ghana i'n Hacademi! Cafodd y myfyrwyr gyfle i gyfarfod, siarad a dysgu am y llwyfannau dawns, ffasiwn ac ar-lein byd-eang mwyaf anhygoel a grëwyd gan rai o'r bobl ifanc greadigol mwyaf dylanwadol yng ngorllewin Affrica. Buom yn cydweithio gyda chreawdwr “Agbelemi Dance” a sylfaenydd DWP Academy -  Dance God Lloyd a roddodd gyflwyniad i'r myfyrwyr i Afro Dance, a rhannodd Joey Lit, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol FREE THE YOUTH gipolwg ar ei frand ffasiwn, ei broses greadigol a'i genhadaeth gymunedol.

Canolfan ein tîm fel arfer yw ein swyddfeydd yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, ond mae gennym ddiwylliant o hyblygrwydd a gweithio o bell felly rydyn ni wedi cynnal dynameg tîm cryf gyda chyfarfodydd Zoom a galwadau ffôn rheolaidd. Mae llawer o brosiectau wedi'u gohirio ac mae llawer yn dal yn ansicr, ond rydyn ni'n canolbwyntio ar beth y gallwn ni ei wneud wrth baratoi at y dyfodol. 

Soniwch wrthym ni am dri dawnsiwr o Gaerdydd y dylem ni eu hadnabod.

Rydyn ni hefyd wrth ein bodd gyda gwaith yr artist amlddisgyblaethol o Gaerdydd, Tina Pastora: @tinapasotra

Dylai pawb hefyd wybod am y Talentau Cymreig Du anhygoel rydyn ni wedi bod yn eu hamlygu ar ein postiadau IG. Rydyn ni wedi amlygu talentau newydd a'r mwy sefydledig o guraduron i ffotograffwyr, pobl sy’n creu newid.

Dyma rai o'n talentau newydd sy'n ddarpar artistiaid: 

  • Jo-el Bertram - Dawnsiwr a Gwneuthurwr Ffilmiau
  • Truli Smith - Dawnsiwr a Dylunydd
  • Shakira Ifill - Dawnsiwr ac Actores
  • Renae Brito - Dawnsiwr ac artist Coluro
  • Patrik Gabco - Dawnsiwr 
  • Gui Pinto- Dawnsiwr 

Unrhyw gyngor i unrhyw un sy'n ceisio creu gyrfa fel person creadigol / artist / dawnsiwr?

- Adeiladwch gymuned a rhwydwaith, cysylltwch a chydweithiwch gyda phobl greadigol eraill

- Byddwch yn weithredol, yn chwilfrydig ac â meddwl agored 

- Ymchwiliwch ac adeiladwch eich cyfeiriadau 

- Peidiwch ag ofni heriau a symud o'ch man cyfforddus 

- Ceisiwch gyfleoedd i deithio ac ehangu eich rhwydwaith

- Daliwch eich gafael ar eich awdurdod dros eich naratif a'ch cynrychiolaeth eich hun

- Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar-lein fel lle i rannu heb ffiniau a chysylltu ag artistiaid a sefydliadau'n rhyngwladol a chreu gwerth i'ch gwaith

- Cymerwch risgiau a byddwch yn symbol o newid! Dechreuwch fudiadau heb aros i gael eich dilysu

Pasiwch y bêl! Pa sefydliad creadigol ydych chi'n ei edmygu?

Free The Youth Ghana: @freetheyouth_ghana (gorllewin Affrica)  

Where I’m Coming From: @whereimcomingfrom (lleol)

Beth sydd nesaf - pa brosiectau ydych chi'n gweithio arnyn nhw?

Ar hyn o bryd rydyn ni'n curadu ein cyfres nesaf o ddosbarthiadau ar-lein i sicrhau ein bod yn cyflenwi'r hyn sydd ei angen ar ein cymuned ar hyn o bryd. Yn ddiweddarach eleni, mae gennym brosiect cyffrous gyda'r Amgueddfa Genedlaethol ar y gweill, fydd yn dod â rhai o artistiaid newydd Caerdydd at ei gilydd. 

Wrth i'r cyfnod clo leddfu, rydyn ni'n paratoi i lansio ein rhaglen celfyddydau amlddisgyblaethol i bobl ifanc yn Hyb Pafiliwn Butetown yn ogystal â chreu rhwydwaith celfyddydau ieuenctid. Mis nesaf byddwn ni'n chwilio am dalent i'r Academi, gan edrych am genhedlaeth nesaf Cymru o dalentau cudd. 

Mae blwyddyn brysur o'n blaenau!

Ewch i'n Insagram ni i weld uchafbwyntiau's sbotolau ar Jukebox Collective.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event