Ar ran Rhwydwaith Artistiaid Cymru BIPOC/Rhaglen Held Space, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer ein symposiwm cyntaf i artistiaid, ‘Rwyt Ti’n Artist, Cofleidia Hynny’. Mae hwn yn gyfle i artistiaid BIPOC o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd a chydnabod y cyfraniad cadarnhaol y mae artistiaid BIPOC yn ei wneud i’r ecosystem gelf ar draws y sector celfyddydau yng Nghymru – drwy weithdai, perfformiadau a thrafodaethau panel.
Mae’r diwrnod wedi’i gynllunio i fod yn greadigol ac yn llawn gwybodaeth, a bydd cyfleoedd i rwydweithio drwy gydol y dydd. Y nod yw arfogi artistiaid â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i’w ffordd drwy’r diwydiant, i feithrin dealltwriaeth a hyder, ac i ganfod ffyrdd o gynnal eu hymarfer a’i symud ymlaen, yn ogystal â chydnabod pwy ydych chi fel artist a ‘chofleidio hynny’.
Siaradwyr a Hwyluswyr:
- Um Mohamed – Artist, Curadur a Awdur
- Radha Patel –Artist, Bardd a Awdur
- Adeola Dewis – Aelod sefydlu o Lakuneg | Artist a Ymchwilydd
- Deep Kailey – Cyfarwyddwr Artistig o WithoutShapeWithoutForm
- Daniel Trividy – Artist
- Sophie Mak-schram – Addysgwr, Cynhyrchydd Celfyddydau a Golygydd
Mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei ddatblygu gan artistiaid BIPOC ar gyfer artistiaid BIPOC ar draws y celfyddydau yng Nghymru, ac mae’r rhaglen wedi’i llunio gyda’r nod o fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol, a hynny mewn amgylchedd diogel ac anogol.
Rydyn ni’n deall bod llawer o artistiaid yn cael trafferth gyda hygyrchedd am wahanol resymau. Mae croeso i chi anfon e-bost at beloved.adonai@artesmundi.org gydag unrhyw ymholiadau am sut gallwn ni eich helpu chi i ddod i’r digwyddiad (boed hynny’n ymwneud â chostau teithio neu rywbeth arall).
Bydd cinio a diodydd ar gael yn ystod y dydd.