Rwy’n hyrwyddo Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth drwy gyfrwng Celf, Siarad Ysbrydoledig a Gwaith yn y Cyfryngau. Rwyf hefyd yn Awdur ac Actor.
Rwy’n Artist Peintio â Thraed llwyddiannus, a gydnabyddir yn rhyngwladol, gyda phartneriaeth gydnabyddedig y Mouth and Foot Painting Artists [MFPA].
Defnyddiaf baent acrylig a dyfrlliw yn bennaf ond rwyf hefyd wedi defnyddio inciau, pensiliau a phastel. Mae fy ngwaith celf yn lliwgar ac yn fentrus.
Yn ystod y cyfyngiadau symud, cadwais yn brysur gyda nifer o brosiectau celf, gan gynnwys ‘Peace & Harmony’, gyda cholomen heddwch yn cario brigyn olewydden yng nghanol pelydrau’r haul yn lliwiau’r enfys. Paent acrylig a ddefnyddiwyd yma, gyda’r llun wedi’i beintio ar fwrdd. Roeddwn i wedi bod yn meddwl am y dyluniad ac yn ymchwilio iddo ers sawl mis. Ym mis Chwefror tynnais i fraslun mewn pensil ac yna ei adael am ychydig.
Yn wreiddiol, byddwn i wedi ei gyflwyno i MFPA, ond roedd popeth yn y llun yn symbolaidd ac yn eithaf priodol o ystyried y sefyllfa roedd pawb ynddi. Felly, yn ystod mis cyntaf cyfyngiadau symud COVID-19, datblygodd y llun hwn i fod yn rhyw fath o achubiaeth ac ymgollais ynddo.
Yn eironig, daeth yr enfys yn symbol ar gyfer y GIG, ac roeddwn i’n poeni’n arw y byddwn i neu fy nheulu yn dal y feirws ac yn gorfod mynd i’r ysbyty. Gwelais garedigrwydd ar sawl ffurf ac mae’n ddiddorol bod y golomen, sy’n arwydd o heddwch, cadoediad, gwirionedd a diniweidrwydd, hefyd yn arwydd ysbrydol o ofal, defosiwn a phurdeb. Roedd pobl yn cadw dweud “Bydd popeth yn iawn”, “Bydd yn bositif”, “Cadwa’n Ddiogel”. Ond, roedd gweld twpdra a natur hunanol pobl hefyd yn fy ngwneud i’n flin felly, mewn ffordd, mae’r gangen olewydden yn cyfleu heddwch, cymod a chadoediad.
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE:
I wybod mwy am Rosaleen Moriarty-Simmonds a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.