Rhywbeth Creadigol? cyfres 3, pennod #1 - Beth yw Dyfodol Technoleg Cymraeg?

Dyma bodlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Yn ail gyfres Rhywbeth Creadigol? rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2021

Ym mhennod cyntaf y gyfres, mae Beca Harries yn cael cwmni  Dr Sarah Cooper a Dewi Jones o Brifysgol Bangor i siarad am ddatblygiadau diweddaraf ym myd technoleg Cymraeg.

Mae Dr Sarah Cooper yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigo mewn seineg, dwyieithrwydd a thechnoleg lleferydd. Peiriannydd Meddalwedd yw Dewi Jones, yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, sydd yn datblygu meddalwedd a systemau technoleg Cymraeg.

Dewi and Sarah split screen recording Rhywbeth Creadigol? podcast

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar dechnoleg lleferydd gan fod seinydd clyfar gan 57% o bobl yng Nghymru erbyn hyn, ac mae’n faes sydd yn datblygu a thyfu’n gyflym.

Pwysleisiodd Dr Sarah Cooper yr angen am y dechnoleg:

Mae’n bwysig rili, os ‘dan ni’n meddwl am y peth, bod ni'n gallu siarad neu ddefnyddio iaith ‘dan ni’n teimlo'n gyfforddus gyda hi. So, os dan i'n meddwl am adnabod lleferydd yn Saesneg neu destun i leferydd lle mae’n creu lleferydd uniaith Saesneg, dydi o ddim yn addas ella i ni fel cymuned dwyieithog. ‘Dan ni‘n byw a defnyddio dwy iaith neu fwy, ac ella bod ni angen meddwl am sut ‘dan ni'n cyfathrebu o ddydd i ddydd.

Mae’r ddau yn trafod sut mae’r dechnoleg yn cael effaith ar hygyrchedd, ac ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Dywedodd Dewi Jones ei fod yn bwysig “normaleiddio’r iaith o fewn y byd technoleg, fel y byd digidol” er mwyn “osgoi difodiant digidol”.

Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Gwrandewch ar y bennod gyfan:

Gwrandewch i fwy o benodau Rhywbeth Creadigol yma.

Soniwyd amdano yn ystod y bennod:

Uned Technoleg Iaith Prifysgol Bangor: http://techiaith.cymru