Rheolydd Cynhyrchu

Cyflog
Yn ddibynnol ar brofiad
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
06.06.2025
Profile picture for user Boom Cymru HR

Postiwyd gan: Boom Cymru HR

Dyddiad: 29 May 2025

Rheolydd Cynhyrchu – Boom Cymru – Cerddoriaeth

Cyfnod o 21 wythnos – Rhan amser (3 diwrnod yr wythnos)

Lleoliad Swyddfa: Gloworks, Bae Caerdydd

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 6ed Mehefin 2025

 

Mae Boom Cymru yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu brwdfrydig, gweithgar a threfnus gyda’r gallu i dalu sylw at fanylder i weithio o ganol Mehefin tan ddechrau Tachwedd ar gyfres cerddoriaeth  gyfoes newydd o 6 x 30 munud ar gyfer S4C. Bydd y rôl yn cynnwys cyn-gynhyrchu, ffilmio yn ystod Gorffennaf, Awst a Medi ac ôl-gynhyrchu.

 

Bydd eich rôl yn cynnwys cyd-weithio'n agos gyda Chynhyrchydd y Gyfres i baratoi popeth sydd angen ar gyfer y cyfnod ffilmio. Byddwch yn trefnu criwiau, yn paratoi asesiadau risg, yn gyfrifol am fonitro’r costau o ddydd i ddydd ac yn rheoli’r Cydlynydd Cynhyrchu. Yn ystod y cyfnod ôl-gynhyrchu, chi fydd yn rhedeg yr amserlen olygu ac yn gyfrifol am gyfleu'r gyfres, dan oruchwyliaeth y Gweithredydd Cynhyrchu. Mae profiad a’r gallu i weithio gyda thîm bach ar amserlen dynn gyda nifer o elfennau yn cyd-redeg yn bwysig yn y rôl hon. Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.  Mae'n fanteisiol os oes gennych gefndir mewn cerddoriaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn cerddoriaeth.

 

Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.

 

Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom  (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.