Rheolwr/wraig Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd

Cyflog
£33,919 - £38,564
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
18.09.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 4 September 2025

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:

 

Mae Gweithrediadau Busnes yn gofalu am adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru, gan sicrhau amgylchedd diogel, cynaliadwy a chroesawgar i weithwyr, preswylwyr a chwsmeriaid ei fwynhau, gan weithio'n agos gyda phob adran i sicrhau bod yr amcan hwn yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus. Mae CMC ar flaen y gad o ran arferion cynaliadwy ac mae wedi cyflawni achrediad ISO14001. Mae’n gweithio yn unol â fframwaith cynaliadwyedd penodol y sector, sef Llyfr Gwyrdd y Theatr. Ar y gorwel, mae gennym nifer o brosiectau seilwaith i'w cyflawni'n ddiogel yn ogystal â pharhau i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd trwy ennill Gwobr y Brenin am gynaliadwyedd.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

  • Byddwch yn gweithio gydag adrannau o fewn CMC, gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth gynhwysfawr ac ymarferol ar draws maes Iechyd a Diogelwch a chynaliadwyedd.
  • Byddwch yn arwain wrth gynnal y lefel uchaf o reolaeth dros safonau iechyd a diogelwch yn y gweithle, gan gynnwys Hylendid Bwyd, a byddwch yn gyfrifol am adolygu'r darpariaethau cyfredol ar gyfer iechyd a diogelwch ar draws ein lleoliadau ac am weithredu System Rheoli Iechyd a Diogelwch effeithiol a chyson.
  • Byddwch yn gweithredu'r System Rheoli Iechyd a Diogelwch ac yn gwella gwelededd iechyd a diogelwch a hybu ein diwylliant diogelwch presennol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda staff a'u mentora i gymryd perchnogaeth o risg ym mhob lleoliad ac i sicrhau cysondeb o ran safonau iechyd a diogelwch ar draws CMC.
  • Byddwch yn cysylltu â thrydydd partïon allweddol i sicrhau cydymffurfiaeth, arfer da a gwelliant parhaus.
  • Gan weithio gyda’r Pennaeth Gweithrediadau Busnes, byddwch yn cyflawni’r strategaeth gynaliadwyedd ar gyfer y sefydliad. Byddwch yn cynnal mentrau a hyfforddiant ar draws y safle yn unol â Llyfr Gwyrdd y Theatr, ISO14001 a chanllawiau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
  • I ddechrau bydd y rôl hon wedi'i lleoli ar y safle er mwyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu popeth am y sefydliad. Ar ôl cwblhau cyfnod prawf gellid ymgymryd â'r rôl hon ar sail hybrid.

Bydd eich rôl yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

  • Bydd gennych hanes cryf o drefnu a chydlynu pob gweithgaredd sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch ar gyfer y safle, megis hyfforddiant a darparu cyngor priodol.
  • Byddwch yn meddu ar gymhwyster iechyd a diogelwch perthnasol (NEBOSH, NVQ, NCRQ, cymhwyster IOSH Lefel 6 neu debyg), neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad amlwg o gynnal, diweddaru a mewnosod system rheoli iechyd a diogelwch a dogfennaeth gysylltiedig.
  • Bydd gennych brofiad blaenorol o gynnal a diweddaru polisïau cynaliadwyedd a chyflwyno mentrau i hyrwyddo ac addysgu gweithwyr.
  • Ynghyd â phrofiad blaenorol mewn rôl rheoli iechyd a diogelwch, bydd gennych brofiad o arwain wrth weithredu arfer gorau, cymryd cyfrifoldeb am adnabod risgiau, datrys problemau a llunio atebion cynaliadwy sy'n sicrhau man diogel i weithio.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos gwaith 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.