Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gweithio gydag artistiaid a chwmnïau i gynhyrchu ystod o gynyrchiadau a gyflwynir yn ein Stiwdio Weston ac ar daith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r rhain yn amrywio o ran maint a graddfa ond mae gan bob un ffocws cerddorol clir, wedi’u gwreiddio yng Nghymru ac yn tanio dychymyg.
Rydym yn chwilio am reolwr/wraig cynhyrchu i ymuno â'n tîm Technegol i arwain a rheoli wrth gynhyrchu'r prosiectau mewnol hyn.
Mae’r Rheolwr/wraig Cynhyrchu yn atebol i’r Pennaeth Technegol a bydd yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cynhyrchu ynghyd â rhyddgyfrannwyr, artistiaid, unigolion creadigol a staff technegol.
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag ac adolygu'r nodiadau canllaw i wneud cais am y rôl (mae'r ddogfen hon yn cynnwys Gwerthoedd Canolfan y Mileniwm).
- Llenwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Adolygu'r Proffil Rôl ar gyfer y swydd a lawrlwytho ffurflen glawr y Ganolfan.
- Anfonwch eich CV a'ch Ffurflen Clawr wedi'i llenwi at recriwtio@wmc.org.uk
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.