RHEOLWR Y SWYDDFA DOCYNNAU

Cyflog
£23,452 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
11.05.2023
Profile picture for user shermantheatre

Postiwyd gan: shermantheatre

Dyddiad: 20 April 2023

Rydyn ni’n chwilio am Reolwr y Swyddfa Docynnau i arwain tîm y Swyddfa Docynnau ac i reoli’r Swyddfa Docynnau, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gyrraedd targedau gwerthu a datblygu’r gwasanaeth orau i gwsmeriaid. Dyma’r cyfle delfrydol i Gynorthwyydd profiadol neu Oruchwyliwr Swyddfa Docynnau profiadol i gymryd y camau cyntaf at swydd reoli a mynd â’u gyrfa i’r lefel nesaf.

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau Byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd.

Dyddiad cau: Hanner dydd, ar Ddydd Iau 11 Mai 2023

Cyfweliadau: Ddydd Iau 18 Mai 2023

Am becyn cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ewch i https://www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy 

Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.