Y Cyfle
Mae'r Rheolwr Prosiectau Marchnata Strategol yn uwch aelod o'r
Tîm Marchnata ac Ymchwil yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE.
Mae'r tîm ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Marchnata a Chyfathrebu
- Grŵp Ymchwil Academaidd
Mae hon yn rôl newydd a fydd yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Masnachol a Marchnata yn y gweithgareddau canlynol:
- Prosiectau marchnata strategol - datblygu a chyflawni prosiectau marchnata strategol allweddol sy'n cyd-fynd ag amcanion Prosiect HELIX a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
- Materion cyhoeddus - datblygu a chyflawni’r strategaeth a’r cynllun materion cyhoeddus gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol megis swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion Awdurdodau Lleol, a gweithredwyr allweddol eraill yn y diwydiant bwyd a diod.
- Cynigion a chyflwyniad prosiectau - chwarae rhan allweddol yn natblygiad cynigion i sicrhau cyllid yn y dyfodol ar gyfer ZERO2FIVE.
Mae Prosiect HELIX yn brosiect mawr sy’n galluogi ZERO2FIVE i weithio gyda chwmnïau bwyd a diod o Gymru i wella eu galluoedd technegol a masnachol.
Fel rhan o Brosiect HELIX, mae'r ZERO2FIVE yn gweithio'n agos gyda phartneriaid diwydiannol i gefnogi busnesau gyda datblygu cynnyrch newydd, gwelliannau technegol a marchnata
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
- Ymgysylltu ag uwch fusnesau bwyd a diod ar lefel Cyfarwyddwr/Perchennog i ddeall gofynion busnesau bwyd a diod am y 5 mlynedd nesaf.
- Rheoli rhaglen bresennol CEO Clwstwr y De.
- Datblygu System Rheoli Cyswllt i wella'r gwaith o reoli cydberthnasau â chwmnïau a rhanddeiliaid allweddol.
- Datblygu gwybodaeth ymarferol o bolisïau cyfredol a photensial sy'n berthnasol i ZERO2FIVE (e.e. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol).
- Datblygu gwybodaeth ymarferol am gyfleoedd ariannu cyfredol a phosibl sy'n berthnasol i ZERO2FIVE.
- Ymgysylltu'n effeithiol ag uwch randdeiliaid (ee: uwch swyddogion y sector cyhoeddus).
- Rheoli cydweithrediad ZERO2FIVE ag Ysgolion eraill ym Mhrifysgol Met Caerdydd (e.e.: datblygu'r berthynas lwyddiannus â Labordy Profiad Canfyddiadol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd).
- Nodi a rheoli ceisiadau am gyllid prosiect gan gyrff cyllido'r DU a Chymru.