Rôl: Rheolwr Prosiect (swydd lawrydd)
Dechrau: Chwefror 2023 (72 diwrnod @ £200 y dydd hyd ddiwedd Mawrth 2024)
12 diwrnod ar gyfer Chwef 23 hyd Fawrth 23 ar gyfer y cyfnod cychwynnol, 60 diwrnod ar gyfer blwyddyn 2
Contract Cychwynnol hyd: Mawrth 2024
Mae’r prosiect Llwybrau Chwedleua Gwrth-hiliaeth yn gynllun cydweithredol rhwng Beyond the Border, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru a People Speak Up. Mae’r prosiect yn cysylltu gyda phrosiect Hwb Chwedleua Myseliwm, gan ymwreiddio chwedleuwyr a chynhyrchwyr ar draws Cymru, ac mae hefyd yn cynnwys datblygu sefydliadol a chynllunio gweithredu ar draws y ddau
sefydliad. Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect gyda phrofiad personol o hiliaeth i lywio’r prosiect, rheoli’r rolau creadigol sy’n cael eu recriwtio a sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion, mewn partneriaeth â thimau yn y ddau sefydliad.
Mae’r swydd yn cael ei neilltuo ar gyfer ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hyn yn seiliedig ar ymrwymiad i arfer gwrth-hiliaeth ac yn adlewyrchu’r tan gynrychiolaeth yn ein sector yr ydym am ymdrin ag o.
Er mwyn ymgeisio, anfonwch eich CV a llythyr 1 dudalen A4 yn esbonio sut yr ydych yn bodloni’r fanyleb person a beth fyddwch chi’n ei ddwyn i’r swydd. Gallwch ymgeisio hefyd trwy fideo, gan eich ffilmio eich hun yn ateb y cwestiynau hyn.
Anfonwch eich cais at recruitment@beyondtheborder.com erbyn Dydd Sul 12 Chwefror am 5pm.
Byddwn yn cynnal gweminar ar-lein i rannu gwybodaeth am y prosiect a’r swyddi sydd ar gael ar y dyddiadau hyn:
Dydd Mawrth 7 Chwefror, 7 – 8pm
Dydd Iau 9 Chwefror, 7 – 8pm ar Zoom.
Er mwyn archebu eich lle anfonwch e-bost at recruitment@beyondtheborder.com
Dyddiad cau: 12/02/2023