Rheolwr Prosiect Llawrydd, Cronfa Lleoedd Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RCFf) y BFI

Cyflog
£210 y dydd (bydd y Swyddog yn gyfrifol am dalu Treth ac Yswiriant Gwladol eu hunain)
Location
Gweithio o bell, ond mae angen i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yn Ne Cymru o fewn cyrraedd i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chas
Oriau
Part time
Closing date
30.08.2024
Profile picture for user Film Hub Wales

Postiwyd gan: Film Hub Wales

Dyddiad: 16 August 2024

Adran: Canolfan Ffilm Cymru (CFfC)
Teitl Swydd: Rheolwr Prosiect

Cytundeb: Uchafswm o 102 diwrnod (oddeutu 2 ddiwrnod yr wythnos rhwng Medi 2024 – Gorffennaf 2025)

Diben y Swydd
Mae Cronfa Lleoedd RCFf y BFI yn rhaglen beilot sydd wedi’i chynllunio i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â chanolfannau sinema annibynnol. Mae’n defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu canolfannau i ddod yn fwy gweledol a hygyrch i’w cymunedau lleol. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o dri lleoliad ledled y DU sydd wedi’i dewis i ymgymryd â’r fenter arloesol hon, sy’n cael ei harwain gan farchnata.

Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Prosiect profiadol i arwain ar gyflawni’r prosiect, mewn partneriaeth â thair canolfan (Neuadd Gwyn, Canolfan y Celfyddydau Taliesin ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen). Bydd y Rheolwr Prosiect yn datblygu strategaethau marchnata creadigol, gan sicrhau bod amcanion y gweithgareddau arfaethedig yn cael eu gwireddu.

Ceisiadau


Mae disgrifiad swydd llawn ar gael i’w lawrlwytho isod.
Gofynnwn i chi anfon CV a llythyr eglurhaol i
hello@filmhubwales.org
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at bob pwynt yn y fanyleb person.

Anfonwch eich gwybodaeth aton ni erbyn 5pm ddydd Gwener 30 Awst fan bellaf. Byddwn yn darllen CVs wrth iddynt ddod i mewn, gyda’r nod o benodi staff cyn gynted â phosib, ac mae’n bosib y byddwn yn cau’r galwad yma unwaith y byddwn wedi dod o hyd i ymgeisydd addas. Byddwn yn gwahodd yr ymgeiswyr sydd ar ein rhestr fer i ddod i drafod y rôl mewn rhagor o fanylder.

Ni fyddwn yn gallu trafod y swyddi gydag ymgeiswyr unigol cyn derbyn eu CV a’u llythyr eglurhaol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.