Rheolwr Prosiect Cynhwysiant, BFI FAN

Cyflog
£30,000 pro rata
Location
Gall gweithwyr llawrydd weithio o unrhyw le qr draws y DU. Mae lle ar gael yn Chapter, Caerdydd. Mae teithio ar draws y DU yn of
Oriau
Part time
Closing date
07.03.2022
Profile picture for user Film Hub Wales

Postiwyd gan: Film Hub Wales

Dyddiad: 10 February 2022

  • Adran: Canolfan Ffilm Cymru  
  • Teitl Swydd: Rheolwr Prosiect Cynhwysiant, BFI Film Audience Network
  • Lleoliad: Gall gweithwyr llawrydd weithio o unrhyw le qr draws y DU. Mae lle ar gael yn Chapter, Caerdydd. Mae teithio ar draws y DU yn ofyniad.
  • Atebol i: Rheolwraig Strategol, Canolfan Ffilm Cymru
  • Atebol am: Dim cyfrifoldebau adrodd uniongyrchol. Goruwchywlio gweithwyr llawrydd ac interniaid.

Diben y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI (Sefydliad Ffilm Prydain) drwy Hwb Arweiniol Canolfan Ffilm Cymru (FHW) - i gyflwyno Sinema Cynhwysol - prosiect DU gyfan, wedi’I ddilynio i gefnogi mynediad a chynhwysiant ar draws aelodaeth arddangosfa ffilm FAN. Nod y prosiect yw cefnogi hyder ac effeithiolrwydd FAN, yn arwain tuag at fwy o gyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth amrywiol a mynediad teg i ffilmiau annibynnol a rhyngwladol Prydeinig i gynulleidfaoedd.

 

Cyfrifoldebau

Rheolaeth Prosiect

  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol i gyflawni yn erbyn prosiectau a amlinellwyd yn y cynllun Sinema Cynhwysol, fel catalog ffilmiau hygyrch ar-lein, cysylltu nifer o deitlau hygyrch Cymdeithas Dosbarthwyr Ffilmiau (FDA) i sinemau a phrosiectau newydd yn cefnogi cymunedau traws* a dosbarth gweithiol,
  • Darparu cyngor a chefnogaeth i’r aelodaeth arddangos ffilmiau a FAN BFI (yn cynnwys tymhorau ffilm DU a rhaglenni hyfforddi) naill ai yn un i un, drwy weithdai neu gyflwyno mewn digwyddiadau,
  • Gweithio gyda Rheolwraig FHW i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar darged.

R&D / Gwerthusiad

  • Craffu’n rheolaidd ar adnoddau, astudiaethau achos a chanllawiau DU yn berthynol i gydraddoldeb a chynhwysiant,
  • Comisiynu creu astudiaeth achos o’r aelodaeth i rannu arfer gorau,
  • Gweithio gyda phartneriaid i archwilio a gweithredu dulliau gwerthuso mwy cynhwysol i’w defnyddio mewn sinemau,
  • Casglu data o bump prosiect a chwblhau adroddiadau chwarterol ar gyfer cyllidwyr.

Partneriaethau

  • Gweithio gyda grwpiau ymgynghori Sinema Cynhwysol i gynnal cyfarfodydd a chael mewnbwn gan arbenigwyr arddangos gyda phrofiad byw sydd yn llywio datblygiad y prosiect,
  • Gweithio gyda chynrychiolwyr allweddol y diwydiant (e.e. BFI, Cymdeithas Sinema DU, FDA, Elusen Teledu a Ffilm) ac eiriolwyr cynhwysiant (elusennau, dylanwadwyr) i gyflawni prosiectau, ymgyrchoedd ac adnoddau,
  • Cynnal cronfa ddata o gysylltiadau partneriaid allweddol.

Codi arian

  • Gweithio gyda phartneriaid arddangos i gefnogi cyflwyno ceisiadau am gyllid,
  • Lle mae’n berthnasol cyflwyno ceisiadau am gyllid yn uniongyrchol i Sinema Cynhwysol.

Eiriolaeth

  • Cynllunio ymlaen ar gyfer dyfodol Sinema Cynhwysol gan archwilio ac ysgrifennu cynlluniau yn unol ag ymgynghoriadau BFI ar gyfer 2023 ymlaen,
  • Cyfrannu at ddatblygiad polisi DU ehangach o amgylch cynhwysiant lle mae angen.

Gwefan

  • Diweddariadau iinclusivecinema.org, ychwanegu cynnwys newydd a gweithio gyda’r datblygydd gwe i fonitro unrhyw ddiweddariadau sydd eu hangen.

Cyfathrebiadau

  • Gweithio gyda Swyddog Cyfathrebiadau FHW i ddiweddaru platfformau cyfyrngau cymdeithasol Sinema Cynhwysol,
  • Monitro a rhannu ymwybyddiaeth, dyddiadau a chyfleoedd perthnasol am gyllido, hyfforddiant a rhwydweithio,
  • Diweddaru FAN BFI a phartneriaid strategol perthnasol neu gyllidwyr ar y cynnydd.

Rheolaeth Cyllidebol

  • Gweithio gyda Rheolwraig a Swyddog Datblygu Canolfan Ffilm Cymru i reoli cyllideb y prosiect a phrosesu taliadau.

Amrywiol

  • Unrhyw ddyletswyddau eraill fel ag y mae’n rhesymol ofynnol gan y Brif Weithredwraig neu Reolwraig Strategol Canolfan Fflm Cymru,
  • Ymgyfarwyddo â phob agwedd berthnasol o Iechyd a Diogelwch, gweithrediadol, personel, gofal cwsmer, Diogelu Data ac ariannol, gan sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r holl rwymedigaethau statudol, yn enwedig mewn perthynas â deddfau trwyddedu a chymorth cyntaf,
  • Rhaid cyflawni dyletswyddau deiliad y swydd bob amser mewn cydymffurfiaeth gyda pholisi Cyfle Cyfartal Chapter gan sicrhau cyfle cyfartal i bob person yn fewnol ac yn allanol i Chapter.

Amodau Arbennig

  • Efallai y bydd angen oriau gwaith hyblyg yn cynnwys penwythnosau/gyda’r nos a rhywfaint o deithio o amgylch Cymru. Caiff ymagwedd hyblyg ei mabwysiadu i sicrhau bod ymgeiswyr gyda gofynion mynediad/galwadau gofalwyr yn derbyn cefnogaeth,
  • Anogir ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol i ddod â’u profiad i’r rôl ac i feithrin dealltwriaeth ehangach oddi mewn i dîm Canolfan Ffilm Cymru a’r FAN ehangach,
  • Dydy’r disgrifiad swydd yma ddim wedi’i fwriadu i fod yn gyflawn. Fe fydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at ddyletswyddau all fod yn amrywiol (yn dilyn trafodaeth gyda deiliad y swydd) yn amodol i anghenion y corff, ac yn unol â phroffil cyffredinol y swydd.


Manyleb y Person

Sgiliau/gallu hanfodol

  • Profiad amlwg o reoli prosiect ar raddfa debyg,
  • Deall y rhwystrau y mae cymunedau lleiafrifol ac/neu unigolion gyda rhwystrau i fynediad yn eu wynebu,
  • Addysg i lefel gradd neu brofiad gwaith cyfatebol,
  • Profiad mewn dyfeisio a chyflwyno gweithdai ac/neu adnoddau,
  • Profiad o ddelio gyda’r wasg a’r cyfryngau,
  • Sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a llafar ardderchog,
  • Y gallu i weithio ar eich pen eich hun a chymryd y cam cyntaf,
  • Profiad o weithio gyda sawl partner a rhanddeiliaid,
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog,
  • Llythrennedd TG, yn benodol y wê, ymgyrchoedd e-bost, cyfryngau cymdeithasol Y gallu i weithio dan bwysau ar dasgau sydd yn cale eu gyrru gan sawl dyddiad cau,
  • Gwybodaeth am godi arian.

Dymunol

  • Gwybodaeth am y sector arddangos ffilmiau a’r diwydiant ffilmiau ehangach,
  • Profiad o adrodd i gyllidwyr,
  • Rheolaeth cyllideb,
  • Y gallu i siarad Cymraeg ar gyfer ceisiadau yng Nghymru.


Ceisiadau

Fe fydd y rhestr fer ar gyfer cyfweliadau yn seiliedig ar ymgeiswyr yn diwallu’r meini prawf hanfodol a restrir yn y swydd ddisgrifiad. Cyfeiriwch at bob pwynt yn eich cais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, dydd Llun 7fed o Fawrth

Fe fyddwn yn cysylltu gyda’r ymgeiswyr ar y rhestr fer erbyn 10fed o Fawrth a chynhelir y cyfweliadau ar Mawrth 16eg unai yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd neu ar-lein drwy Zoom (i’w gadarnhau). Noder os gwelwch yn dda, os nad ydych wedi clywed oddi wrthym erbyn y dyddiad cyswllt uchod, rydych wedi bod yn aflwyddiannus ac ni allwn gynnig cyfweliad i chi.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Mawrth/Ebrill

Anfonwch eich cais, yn cynnwys enwau a rhif ff ôn dau ganolwr at apply@chapter.org Ni allwn dderbyn CVs.

Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.