Am y rôl
Fel Rheolwr Perthynas - Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio, byddwch yn gysylltydd allweddol ym myd theatr amrywiol Cymru. Gan weithio gyda'r tîm arbenigol, byddwch yn meithrin perthnasoedd cryf ar draws ffurfiau perfformio traddodiadol a chyfoes, gan gefnogi lleisiau theatr Cymru a chyflawni nodau strategol, gan gynnwys Adolygiad Theatr Saesneg 2025. Byddwch yn ymgorffori'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant, a Chyfiawnder Hinsawdd yn eich holl waith.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am eiriolwr angerddol dros theatr a chelfyddydau perfformio Cymru, sy'n fedrus wrth gysylltu ag artistiaid, sefydliadau a chymunedau ar draws amrywiol ffurfiau. Yn gydweithredol ac yn weladwy, rydych chi'n dod ag ymrwymiad i amrywiaeth, cynaliadwyedd a blaenoriaethau diwylliannol Cymru, gan helpu i dyfu a chefnogi ecosystem theatr fywiog Cymru.
Yr Iaith Gymraeg
Mae stori pawb gyda’r iaith yn wahanol ac rydym yn cydnabod bod lefelau gallu a hyder yn amrywio o berson i berson. . Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach. Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth berthnasol i gynyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.