Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Ystadau
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Dyddiad Cau
18-09-2022
£43,414 - £51,805 per annum
Fel arfer, bydd deiliad y swydd hon yn gweithio yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin ar Gampws Singleton a bydd angen teithio rhwng ein dau gampws ac yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ôl yr angen
Bydd Rheolwr Lleoliadau a Gweithrediadau
Ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfrifol am gefnogi a chyfrannu at weithgareddau diwylliannol a chelfyddydau sefydliad cyfan a rhanbarth cyfan drwy arweinyddiaeth weithredol Taliesin ac isadeiledd diwylliannol ehangach y Brifysgol.
Mae'r Rheolwr Lleoliadau a Gweithrediadau
Yn ymuno â'r Brifysgol ar adeg bwysig wrth i ni ddechrau gweithredu ein Cynllun Busnes newydd (2021 – 2024) a datblygu’r strategaeth ar gyfer rhaglen celfyddydau a diwylliannol ehangach yn y Brifysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arweinyddiaeth weithredol o ddydd i ddydd a datblygu gweithrediadau ymwelwyr y lleoliad, gan sicrhau bod y Ganolfan yn amgylchedd deniadol, diogel a chynaliadwy i ymwelwyr, cwsmeriaid a chyflogwyr a bydd yn atebol am weithrediad, rheolaeth a gweinyddiaeth effeithiol y cyfleusterau o ddydd i ddydd.
Rydym yn gweithio'n agos ac ar y cyd â rhwydweithiau celfyddydau ar draws y DU, yn enwedig â Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, i ddatblygu a darparu rhaglenni celfyddydau o safon uchel sy'n adlewyrchu anghenion newidiol ein cynulleidfaoedd.
Rydym yn gwerthfawrogi cydweithio agos â'r myfyrwyr, y staff a'r ymchwilwyr yn y Brifysgol, yn ogystal ag yn ehangach ar draws y rhanbarth, wrth ddatblygu cynulleidfaoedd a doniau artistig.
Bydd deiliad y rôl hon yn aelod o Uwch-dîm Rheoli Taliesin ac o ganlyniad, bydd yn dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Gwasanaethau Masnachol ac yn ei gynrychioli yn ôl yr angen. Mae'r rôl yn y Tîm Gwasanaethau Masnachol a Champws ehangach.
- Tystiolaeth sylweddol o reoli lleoliadau ac isadeiledd mewn lleoliad celfyddydol, gan gynnwys profiad ymwelwyr, gweinyddu, rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch a darpariaeth dechnegol.
- Profiad sylweddol o arwain, rheoli ac ysgogi tîm amrywiol.
- Profiad o ddatblygu, gweithredu ac adolygu systemau, prosesau a pholisïau.
- Profiad o arwain newid a chefnogi timoedd drwy newid.
- Profiad o ddatblygu cynlluniau codi arian llwyddiannus gan arallgyfeirio incwm a/neu godi arian
Ymholiadau anffurfiol: Ben Lucas – b.d.lucas@Swansea.ac.uk
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau amrywiol gan bobl sy’n perthyn i’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Dyddiad Cau: 18 Medi 2022
Dyddiad Rhestr Fer: 19 Medi 2022
Dyddiad Cyfweliad: 26 Medi 2022