Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac arlein.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol profiadol ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru. Bydd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn gynghorydd i grŵp gweithrediadau WNO (gan gynnwys CTS) a bydd yn goruchwylio, monitro a gwella systemau a diwylliant Iechyd a Diogelwch y cwmni drwy gymryd ymagwedd ragweithiol. Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o lunio strategaeth barhaus i wella'r diwylliant Iechyd a Diogelwch yn y cwmni a chefnogi rheolwyr wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol frwdfrydedd gwirioneddol dros iechyd a diogelwch a brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth. Profiad o reoli iechyd a diogelwch mewn amgylchedd amrywiol ac mae cymhwyster iechyd a diogelwch cydnabyddedig h.y. Diploma NEBOSH, NVQ Lefel 6 neu gyfwerth ac Aelodaeth Graddedigion o IOSH yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y ceisiadau a gyflwynwyd yn cael eu hadolygu a’u rhoi ar restr fer ar ôl eu derbyn. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad ar sail barhaus nes bydd y swydd wedi ei llenwi gan yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.