Dyddiad cau: 11 Medi
Cyfweliadau: 26 Medi
Adran: Rhaglen & Marchnata
Teitl Rô: Rheolwr Datblygu Cynulleidfa
Cyflog: £29,248.59 (pro rata)
Contract: Cyfnod penodol o 15 mis
Oriau: 3 diwrnod(24 awr) yr wythnos
Lleoliad: Chapter, Caerdydd
Diben y Swydd
Mae Chapter yn chwilio am unigolyn deinamig ac empathetig sy’n angerddol am gynulleidfaoedd i ymuno â nhw fel Rheolwr Datblygu Cynulleidfa. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu a’r Pennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned i lywio ein hymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl tuag at gyd-greu, meithrin ymdeimlad o berchnogaeth, llesiant, a chysylltiad â chynulleidfaoedd a chymunedau ar garreg ei ddrws.
Mae hon yn swydd newydd sydd wedi’i dylunio i helpu Chapter i gyfnerthu ac i ymestyn yr arferion cynhwysol sydd wrth wraidd i'w waith. Mae Chapter yn awyddus i ehangu ac amrywio ei gynulleidfaoedd, gan greu cyfleoedd cadarnhaol ac ystyrlon i ymgysylltu ar gyfer ystod eang o bobl. Byddwch chi’n meithrin ei berthnasoedd presennol, yn ogystal â datblygu ffyrdd arloesol ac ystyrlon o gyrraedd ac adeiladu ar gynulleidfaoedd newydd.
Yn ganolog i’r swydd mae creu a chyflawni strategaethau uchelgeisiol sy’n adlewyrchu dealltwriaeth ddofn o cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd Chapter, ac sy’n cynnig ymagweddau effeithiol a dychmygus i sicrhau’r cyrhaeddiad a’r ymgysylltiad uchaf posib. Gan weithio’n agos gyda’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu a’r Pennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned, byddwch chi’n cyfrannu’n effeithiol i’n dealltwriaeth o bwy sy’n ymgysylltu â Chapter a phwy sydd ddim, a pham. Bydd y mewnwelediadau hyn yn darparu tystiolaeth helpu nhw i ddeall yn well yr effaith greadigol, gymdeithasol ac economaidd mae Chapter yn cael yn ei gymuned a’r tu hwnt, ac i cefnogi nhw i siapio ei hamcanion sefydliadol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad.