Rheolwr Datblygu

Cyflog
30,000-37,500
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
24.11.2025
Profile picture for user lizzy

Postiwyd gan: lizzy

Dyddiad: 25 October 2025

Mae NoFit State Circus yn chwilio am Reolwr Datblygu brwd, uchelgeisiol a threfnus sydd ag angerdd gwirioneddol dros y celfyddydau a'n gwaith ni.

 

Rhaid i chi fod yn un ardderchog am adeiladu a meithrin perthnasoedd, yn gallu meddwl yn y tymor hir ac yn strategol, ac addasu i anghenion amrywiol y byd cyfnewidiol o'n cwmpas.

 

NoFit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, rydym yn dod i gysylltiad â rhwng 120,000 a 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a’r byd. Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill – mae gennych chi a'n cefnogwyr ran hanfodol i'w chwarae yn sicrhau eu bod yn llwyddo, ac ni fu erioed gwell amser i ymuno â ni a bod yn rhan o hynny.

 

Oriau Gwaith:  Swydd lawn amser

Lleoliad: Caerdydd

 

Dyddiadau allweddol

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:   3pm, dydd Llun 24 Tachwedd 2025

Cyfweliadau:                               Yr wythnos yn dechrau ar 1 Rhagfyr ac 8 Rhagfyr

Syniad o’r dyddiad dechrau:         Cyn gynted â phosibl

Cyflog:                    £30,000 - £37,500 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad, agored i’w adolygu

 

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org

 

Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Ar hyn o bryd, nid oes gan bobl anabl, B/byddar a/neu niwrowahanol, pobl o gefndiroedd sy’n fwyafrif byd-eang na phobl o dan 30 gynrychiolaeth ddigonol yn ein tîm ac felly rydym yn annog pobl o’r grwpiau hyn, yn neilltuol, i ymgeisio.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.