Swydd Wag: Rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Gweithredol
Cyflog: £21,000 (pro-rata o £35,000)
Oriau: 21 awr yr wythnos
Cytundeb: Parhaol
Os oes angen y wybodaeth hon mewn fformat gwahanol arnoch, cysylltwch â post@dacymru.com
Os hoffech drafod y rôl yn anffurfiol, cysylltwch â owain@dacymru.com
Crynodeb
Rydym yn edrych am Rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth i ymuno a tîm ffantastig Celfyddydau Anabledd Cymru. Ydych chi’n berson drefnus gyda sylw rhagorol i fanylion a'r gallu i gadw golwg ar derfynau amser amryfal? Gallai'r rôl hon fod ar eich cyfer chi. Bydd eich gwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at gynhyrchu celfyddydau anabledd o'r radd flaenaf a gwneud Cymru yn lle tecach i bobl anabl a/neu Fyddar.
Sut brofiad yw gweithio gyda ni
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn Sefydliad Corfforedig Elusennol, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn sefydliad aelodaeth sy’n cynhyrchu celf i gyfleu profiad bywyd pobl anabl a/neu Fyddar yng Nghymru a datblygu talent artistiaid anabl a/neu Fyddar trwy brosiectau sy’n cael effaith genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn gweithio i fodel cymdeithasol anabledd, gan ymgorffori ei egwyddorion ym mhob agwedd o'n gwaith ni.
Manteision o weithio i DAC
-
Mae DAC yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol ac i les ein tîm.
-
Oriau gweithio hyblyg.
-
Mynediad at hyfforddiant a datblygiad.
-
Plan iechyd gyda Westfield.
-
Cynllun Pensiwn NEST gyda Chyfraniad Cyflogwr o 3%.
-
Gweithio mewn tîm sy'n fach ond yn hynod brofiadol a brwdfrydig.
-
Er i’r tîm gweithio o gartref yn bennaf, rydym yn cwrdd mewn person o leiaf dwywaith y flwyddyn ac rydym yn cael Sgyrsiau Coffi wythnosol dros Zoom.
Trosolwg o ddyletswyddau
Fel Rheolwr Cyllid a Gweinyddiaeth, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r uwch dîm arwain a bwrdd yr ymddiriedolwyr i:
-
Paratoi cyfrifon diwedd blwyddyn i'w cyflwyno i Arholwyr Annibynnol.
-
Arolygu cyllidebau a pharatoi adroddiadau cyllid.
-
Cynnal pecyn cyfrifon Xero gan gynnwys: Prosesu anfonebau gwerthu a phrynu, hawliadau treuliau staff a chymodi datganiadau banc.
-
Goruchwylio cynllun pensiwn NEST, gan sicrhau bod taliadau misol yn cael eu hadrodd a'u cyflwyno.
-
Paratoi cyllideb flynyddol ar gyfer CCC a chyflwyno cyllidebau ar gyfer adroddiadau chwarterol.
-
Arolygu llif arian a gwneud trosglwyddiadau rhwng cyfrifon.
-
Cadw cofnodion o drafodion Rhodd Cymorth a chyflwyno hawliad blynyddol i HMRC.
-
Cydgysylltu â darparwyr gwasanaethau a chael dyfynbrisiau/tendrau ar gyfer gwasanaethau.
-
Goruchwylio aelodaeth DAC: adnewyddu aelodaeth yn flynyddol a phrosesu aelodau newydd.
-
Mewn cysylltiad â'r swyddog diogelu, sicrhau bod holl gofnodion Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y Staff, Bwrdd a Gwirfoddolwyr yn gyfredol.
-
Cadw cofnodion yr Ymddiriedolwyr a sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu yn gytûn â chyfansoddiad y sefydliad.
-
Cyhoeddi a chynnal ffurflenni Gwrthdaro Buddiannau a gwybodaeth Cydraddoldeb yn flynyddol.
-
Cyflwyno ffurflen flynyddol i'r comisiwn elusennau.
-
Cynorthwyo gyda pharatoi gwybodaeth ar gyfer y Bwrdd a chyfarfodydd Ymddiriedolwyr eraill.
-
Assist with preparation of annual Trustee report, annual report to members.
-
Cynorthwyo gyda pharatoi adroddiad blynyddol yr Ymddiriedolwyr, ac adroddiad blynyddol i'r aelodau.
-
Goruchwylio amserlen adolygiadau polisi, cysylltu ag AD (HR) i roi cyngor. Paratoi polisïau i'w hadolygu yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Diweddaru llawlyfr staff ac amserlen adolygu.
-
Rheoli arolwg blynyddol CCC ynghyd ag uwch arweinwyr a'r holl staff.
-
Gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer y sefydliad.
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad
Defnyddiwch y ffurflen gais i ddisgrifio sut yr ydych yn berson addas i'r swydd o ran pob un o'r pwyntiau hyn, gan ddefnyddio enghreifftiau perthnasol o'ch profiad.
Dymunol:
Profiad perthnasol ac yn gallu arddangos gwybodaeth o ddarparu cymorth ariannol a gweinyddol i sefydliad trydydd sector.
Siaradwr Cymraeg neu rywun sy'n fodlon i ddysgu.
Hanfodol:
Dealltwriaeth o egwyddorion cadw cyfrifon a sut i gyflwyno adroddiadau ariannol.
Gwybodaeth am brosesau elusen gan gynnwys paratoi adroddiadau blynyddol a gweithio gyda bwrdd ymddiriedolwyr.
Profiad o drin gwybodaeth sensitif a gwybodaeth ymarferol o GDPR.
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol gyda'r gallu i weithio'n effeithiol gyda phob math o bobl ar bob lefel.
Effeithiol wrth drefnu llwythi gwaith gyda'r gallu i weithio'n aml-dasg a rheoli mwy nag un prosiect ar yr un pryd gyda blaenoriaethau sydd weithio yn gwrthdaro.
Profiad perthnasol o baratoi'r Gyflogres gan gynnwys cyflwyniadau HMRC ac ymdrin â phensiynau NEST.
Sgiliau TG uwch gan gynnwys MS Office a meddalwedd cyfrifo/cyflogres (Xero yn ddelfrydol)
Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymiad i weithio dros hawliau pobl anabl a/neu Fyddar.
Sut i Ymgeisio
Gwnewch gais am y rôl hon trwy gwblhau Ffurflen Cais a Ffurflen Cydraddoldeb a’u dychwelyd drwy e-bost i post@dacymru.com gyda’r llinell bwnc: ‘Rheolwr Cyllid a Gweinyddol’.
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais yma.
Lawrlwythwch y Ffurflen Cydraddoldeb yma.
Defnyddiwch y Ffurflen Gais i ddangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl drwy ddisgrifio sut rydych yn cael profiad perthnasol o bob un o’r pwyntiau uchod yn yr adran ‘gwybodaeth, sgiliau a phrofiad’.
Oherwydd natur y rôl hon, dim ond ffurflenni cais ysgrifenedig fydd yn cael eu hystyried. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl a Byddar a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon.
Dyddiad cau: 5yp, 11eg o Orffennaf, 2024