Rheolwr Celfyddydau Cymru

Cyflog
£30,839
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
05.01.2025

Postiwyd gan: Aditi Jain

Dyddiad: 2 December 2024

Rheolwr Celfyddydau Cymru

Band cyflog British Council: 7

Cyflog: £30,839

Lleoliad: Caerdydd (bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd o leiaf ddwywaith yr wythnos)
Adran: Gweithrediadau Rhyngwladol

Math o gytundeb: Penagored (parhaol)
Dyddiad Cau: 5 Ionawr 2025

Rhaid bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yng Nghymru ar adeg cyflwyno'ch cais.

Ni chynigir cymorth ar gyfer adleoli na chymorth nawdd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r British Council yn cefnogi dulliau gweithio newydd fel gweithio hybrid, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth lawn ein rheolaeth llinell ac yn amodol ar ein gallu i ddarparu'r lefel gwasanaeth priodol. Mae'n bosib na fydd hyn yn addas ar gyfer pob swydd, ond gellir trafod hynny ymhellach yn y cyfweliad.

Pwrpas y rôl

Mae'r Rheolwr Celfyddydau'n gyfrifol am gyflenwi portffolio amrywiol o raglenni ym maes y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol sy'n cael eu hariannu drwy grant gan y British Council, partneriaid eraill, neu arianwyr cleient. Byddant yn gyfrifol am roi gweithgareddau pedair rhaglen gelfyddydau fyd-eang ar waith yng Nghymru sef: Cysylltu Drwy Ddiwylliant (Culture Connects), Sbotolau ar Ddiwylliant (Spotlights on Culture), Economi Greadigol (Creative Economy) ac Ymateb y Celfyddydau i Heriau Byd-eang (Arts Responds to Global Challenges).

Byddant yn cydweithio gyda thîm bach yng Nghymru a arweinir gan Bennaeth y Celfyddydau yng Nghymru gan adrodd wrth Gyfarwyddwr Gwlad Cymru. Byddant yn rheoli cysylltiadau â phartneriaid a rhanddeiliaid yn y sector yn ogystal â meithrin cysylltiadau gyda chydweithwyr yng Nghymru ac ar draws y rhwydwaith gelfyddydau ryngwladol, gan gydweithio ar raglenni byd-eang.

Byddant yn gweithio gyda'r Pennaeth Celfyddydau yng Nghymru, arianwyr a phartneriaid prosiect i ddatblygu a chyflawni prosiectau partner celfyddydol effeithiol o ansawdd uchel, gan sicrhau bod ein rhaglen gelfyddydau'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r British Council, Llywodraeth Cymru a sector y celfyddydau yng Nghymru.

Y Rôl

Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae datganoli wedi symud y broses o wneud penderfyniadau ac atebolrwydd yn agosach at bobl Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Yn ogystal â'n haliniad strategol â blaenoriaethau'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a Llywodraeth Ei Fawrhydi, rydym wedi ymrwymo i gefnogi uchelgeisiau rhyngwladol perthnasol y Llywodraethau etholedig yng Nghaerdydd, Belffast a Chaeredin. Mae hyn oll yn greiddiol i'r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud, y gwerth yr ydym yn ei geisio a'r partneriaethau yr ydym yn eu meithrin.

Mae'r British Council yn chwarae rôl bwysig wrth rannu gweledigaeth gyffrous a llawn dychymyg o'r Deyrnas Unedig a'i phedair gwlad (gyda'u holl amrywiaethau, a'r oll sy'n gyffredin rhyngddynt) ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein hymrwymiad i Weithio ar ran y Deyrnas Unedig Gyfan.

Mae ein trefniadau cyfansoddiadol o dan bwysau ac mae'r Undeb yn wynebu heriau. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd a Covid-19 wedi dwysau straeniau yn y berthynas rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig, pob un â'i hanian wleidyddol unigryw ei hunan, a does dim arwydd y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Arbenigedd yn y Sector / Maes                                                                                                                    

  • Defnyddio ei (g)wybodaeth ei hunan am gelfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru,  deallusrwydd, a mewnwelediad gan bartneriaid eraill yn y sector i gefnogi'r gwaith o roi rhaglenni celfyddydau rhyngwladol ar waith sy'n ateb gofynion penodol Cymru a hefyd yn dod â budd i sefydliadau diwydiannau creadigol yn rhyngwladol ac ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.   
  • Manteisio ar gysylltiadau byw gyda chydweithwyr rhyngwladol ym maes y celfyddydau i feithrin a chynnal dealltwriaeth gadarn o flaenoriaethau sector y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru - yn ogystal â blaenoriaethau rhyngwladol allweddol a blaenoriaethau ar draws gweddill y D.U.
  • Gallu gweld cyfleoedd i sector Celfyddydau Cymru weithio ynddynt a manteisio arnynt, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr yn rhyngwladol. 
  • Cyfrannu i'r broses o friffio am y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
  • Cynrychioli'r British Council yng Nghymru fel llais cydnabyddedig ac awdurdodol am y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol i randdeiliaid a chynulleidfaoedd allanol.                                                   

Arweiniad a Rheoli

  • Rheoli ein gweithgareddau dydd i ddydd ym maes y Celfyddydau gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau byd-eang gofynnol o ran rheoli rhaglenni a chytundebau.
  • Sicrhau rheolaeth a chydymffurfiaeth ariannol effeithiol: yn rheoli a chyflawni targedau gan ateb gofynion cyllidebol, proffidioldeb, amserlen a bodloni safonau ansawdd corfforaethol ym mhob maes.
  • Derbyn cyfrifoldeb am sicrhau ansawdd ac effaith, yn ogystal â rheoli materion a risgiau yn ymwneud â grantiau rhaglenni, cytundebau â phartneriaid a chytundebau cyflenwyr.
  • Darparu mewnbwn a gwaith cynllunio arbenigol i sicrhau bod gweithgareddau ein rhaglenni celfyddydau byd-eang yn berthnasol i sectorau'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
  • Adrodd ar fonitro, gwerthuso, a gwersi a ddysgwyd yn erbyn Strategaeth Ymgysylltu Diwylliannol 2025 a dangosyddion perfformiad allweddol y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
  • Gweithio'n frwd ar draws holl fframwaith rhwydwaith y celfyddydau, gan gydweithio â chydweithwyr ar raglenni a hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Defnyddio platfformau digidol a'r dechnoleg ddiweddaraf i wella effeithiolrwydd, effaith ac ansawdd cynllunio, a chyflawniad gweithgareddau.
  • Ymgorffori camau gweithredu penodol i ymdrin â blaenoriaethau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth gyflawni rhaglenni.
  • Rheoli mentrau ym maes y celfyddydau i hybu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth y British Council.

Strategaeth a/neu Gynllunio

  • Cyfrannu i broses gynllunio portffolio celfyddydau Cymru.
  • Cefnogi datblygiad cysylltiadau mewnol ar draws gwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig ac Ymgysylltu Diwylliannol i sicrhau bod blaenoriaethau strategol Cymru yn cael eu cysoni, eu deall a'u gwireddu.
  • Yn effro i rôl adnoddau, gwasanaethau a sianeli digidol i sicrhau bod y portffolio'n cael yr effaith orau bosibl a'i fod yn gynaliadwy; a chydweithio gyda chydweithwyr marchnata a digidol ar draws y rhanbarthau.

Cysylltiadau & Rhanddeiliaid

  • Cynnal cysylltiadau gyda phartneriaid sy'n berthnasol i sectorau'r celfyddydau a sectorau diwylliannol ehangach yng Nghymru i gynnal dealltwriaeth ragorol o themâu a materion perthnasol ym meysydd y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol. Byddwch yn manteisio ar y mewnwelediad hwn i ganfod cyfleoedd a phartneriaid newydd i British Council Cymru.
  • Cydlynu ac adeiladu rhwydwaith eang, amrywiol a deinamig o gynrychiolwyr allweddol o sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, gan gynnwys artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol, canolfanau creadigol, sefydliadau celfyddydol, grwpiau sy'n eirioli dros y celfyddydau, cyfryngwyr a chyrff sy'n rhan o'r sector ayb
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau sefydliadol yn y sector a fydd yn helpu i agor drysau i gydweithio artistig, cyfnewid diwylliannol a gwaith yn yr economi greadigol.
  • Cynrychioli, cyfathrebu a rhannu gwybodaeth am British Council Cymru a rhaglenni celfyddydau byd-eang
  • Cynrychioli British Council Cymru mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol, gan ddirprwyo ar ran Pennaeth Celfyddydau Cymru yn ôl y gofyn.

Brandio a safle yn y farchnad

  • Hyrwyddo holl amrywiaeth sector celfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru dramor.
  • Cyfrannu i'r gwaith o ddatblygu deunydd cyfathrebu mewnol ac allanol i amlygu straeon trawiadol am bortffolio celfyddydau Cymru.
  • Cefnogi'r gwaith o gynnal, ehangu a monitro ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus gan gynnwys ymgyrchoedd digidol, gan weithio gyda thîm British Council Cymru a'r tîm  Cyfathrebu.
  • Rheoli amserlen yr holl weithgareddau sy'n digwydd yng Nghymru neu ar ran Cymru mewn cydweithrediad â'n holl bartneriaid a rhanddeiliaid a'n digwyddiadau prosiect.
  • Sicrhau cynnal enw da British Council Cymru o ran ansawdd ein gwaith ac fel partner nid-er-elw gwerthfawr, a chyfrannu i genhadaeth ein sefydliad i feithrin ymddiriedaeth rhwng Cymru a gwledydd eraill.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws gwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig ac Ymgysylltu Diwylliannol i sicrhau bod mewnwelediad cwsmeriaid/y farchnad yn rhan o'r broses o gynllunio datblygiad ein rhaglenni a sicrhau bod cynnig British Council Cymru'n berthnasol i amcanion y farchnad, Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
  • Gweithio gyda Phennaeth y Celfyddydau yng Nghymru a'r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod rhaglen gelfyddydau Cymru yn cael ei hyrwyddo, ei marchnata a'i rhannu ar draws y cyfryngau, gan gynnwys cyfryngau print a digidol yng Nghymru a'r D.U. ac mewn marchnadoedd rhyngwladol priodol.

Rheoli Rhaglenni

  • Sicrhau bod gweithgareddau ein rhaglenni celfyddydau byd-eang yn cael eu teilwra i anghenion penodol Cymru, drwy gydweithio â chydweithwyr yng ngwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig/Ymgysylltu Diwylliannol a thramor.
  • Rheoli a chydlynnu prosiectau a rhaglenni ym maes y celfyddydau ar ran British Council Cymru gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, cynllunio a chyflawni prosiectau.
  • Rheoli cyllidebau prosiectau a gweithgareddau celfyddydol gan gynnwys gwaith cynllunio ariannol a chynllunio adnoddau drwy ddefnyddio platfform cyfrifo SAP, monitro, a pharatoi adroddiadau ariannol misol, trefnu Archebion Prynu a rheoli ariannu allanol lle bo'n berthnasol.
  • Rheoli caffaeliad, grantiau a datblygu/rheoli cytundebau gan gynnwys diwydrwydd dyladwy.
  • Rheoli ac amserlennu cyfarfodydd grwpiau a phwyllgorau partner, pwyllgorau ymgynghorol a phwyllgorau llywio gan baratoi agendâu, cydlynu cyfarfodydd a darparu cofnodion ac adroddiadau.
  • Yn gyfrifol am ddilyn a rheoli prosesau gwerthuso prosiectau/rhaglenni; casglu data ac adrodd yn erbyn targedi effaith y British Council a phartneriaid; ac adrodd ar reolaeth prosiectau / rhaglenni.
  • Rheoli materion sy'n codi gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol a'u cyfeirio at swyddog uwch pan fo angen.
  • Dwyn partneriaid cyflenwi, aelodau tîm ac ymgynghorwyr i gyfrif am gyflawni amcanion a/neu ganlyniadau y cytunwyd arnynt.

Gofynion y rôl:

Hanfodol

  • Gradd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol
  • Dealltwriaeth gadarn o faes y celfyddydau, diwydiannau creadigol a pholisi'r celfyddydau yng Nghymru
  • O leiaf 3 mlynedd o brofiad o weithio yn sector y celfyddydau a/neu sector y diwydiannau creadigol
  • Profiad o reoli prosiectau celfyddydol a chyfathrebu â rhanddeiliaid a phartneriaid niferus
  • Rhwydwaith fyw a chyfredol o gysylltiadau amrywiol yn sector y celfyddydau yng Nghymru
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gydag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys sgiliau llafar, ysgrifenedig a chyflwyno
  • Ymrwymiad gweithredol i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiad.

Dymunol

  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) neu barodrwydd i ddysgu
  • Profiad o weithio ar brosiectau rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill
  • Profiad o adnoddau a phlatfformau digidol ac o gynllunio, rheoli a chyflawni digwyddiadau digidol gan sicrhau ateb gofynion safonau corfforaethol
  • Profiad o feithrin a datblygu partneriaethau a rhwydweithio

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event