Rheolwr Adnoddau Dynol

Cyflog
£40,000 i £44,000, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Location
Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym hefyd yn gweithredu polisi hybrid.
Oriau
Full time
Closing date
16.05.2024
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 29 April 2024

Rheolwr Adnoddau Dynol

Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm.  Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.

Byddwch yn cefnogi'r Cyfarwyddwr wrth gynllunio strategaethau a chynlluniau pobl ac yn rheoli cysylltiadau a gweithwyr. Yn creu mentrau ymgysylltu â gweithwyr a pholisïau a gweithdrefnau pobl, byddwch yn defnyddio systemau gwybodaeth Adnoddau Dynol i gasglu data a mewnwelediadau pobl. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli'r broses ddysgu a datblygu er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y sefydliad a rheoli’r broses recriwtio.

Mae’r rôl yn atebol i Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
 

Manylion Eraill

Lleoliad:                 Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym hefyd yn gweithredu polisi hybrid.

Cyflog:                    O gwmpas £40,000 i £44,000, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.

Cytundeb:               Parhaol

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Iau 16 Mai 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event