Rhaglen Breswylfa Arlunwyr Cwm Elan 2021-22

Cyflog
£3000
Location
Rhaeadr
Oriau
Fixed term
Closing date
26.03.2021
Profile picture for user SimonFenoulhet

Postiwyd gan: SimonFenoulhet

Dyddiad: 3 March 2021

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth arlunwyr gweledol ar gyfer rhaglen Breswylfa Arlunwyr yng Nghwm Elan, canolbarth Cymru.  Mae tri lle preswyl ar gael: un ym mis Awst – mis Rhagfyr 2021, un ym mis Ionawr – mis Mehefin 2022 ac un ym mis Awst – mis Rahgfyr 2022.

Trwy’r celfyddydau, rydym eisau cael gwell ddealltwriaeth, archwilio a gweithio’n agos gyda natur, dŵr a materion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd, ynghyd â deinamig gwledig/trefol.  Bwriada Preswylfa’r Arlunwyr gyflawni hyn.

Mae Cwm Elan yn le arbennig gyda thirwedd unigryw, stori a hanes.  Yn rhan o fynyddoedd garw y Cambria, mae’n ardal brydferth, sydd heb ei difetha, ac sy’n hafan i fywyd gwyllt.  Mae hyd yn oed yn fwy atyniadol oherwydd yr argaeau a’r cronfeydd dŵr Fictoraidd sy’n creu tirwedd rhyfeddol a byw.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, ar ddydd Gwener 26 Mawrth 2021.  I lawrlwytho’r cyfarwyddyd a ffurflen gais, ewch at https://www.elanvalley.org.uk/news/article/artists-residencies-open-2021-22  Neu ebostiwch caroline.freeman@elanvalley.org.uk

Cefnogir y rhaglen breswyliad gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Dŵr Cymru Welsh Water a Community Arts Rhayader and District (CARAD).

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.