Prif Wisgwr Achlysurol

Cyflog
£14.32 yr awr
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
04.08.2025
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 25 July 2025

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Uwch Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol, i gynorthwyo gyda phob elfen sy’n ymwneud a gwisgoedd i’r safon uchaf bosibl mewn cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau mewn ffordd effeithlon sy’n hyrwyddo amgylchedd gweithio diogel, iach a chynaliadwy. Hefyd i gynorthwyo’r Rheolwr Cwpwrdd Dillad Teithiol drwy drefnu rota o Wisgwyr Achlysurol i wisgo’r perfformwyr ac ymgymryd ag amryw o dasgau sydd ynghlwm â chynnal cwpwrdd dillad.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Creu rota wythnosol o Wisgwyr Achlysurol i gefnogi ymarferion a pherfformiadau.
  • Mynychu Cyfarfodydd Adrannol a Thechnegol yn ôl yr angen a chynorthwyo â'r gwaith o ddirprwyo tasgau.
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu taflenni amser, cofnodion gwyliau, a data arall sy’n gysylltiedig â staffio.
  • Defnyddio eich sgiliau gwisgo ymarferol, eich gwybodaeth a'ch profiad i sicrhau bod cynyrchiadau yn cael eu cyflwyno i'r safon uchaf bosib, a bod gweledigaeth artistig a chreadigol y tîm cynhyrchu yn cael ei chyflwyno'n gywir a chyson.
  • Darparu sgiliau ymarferol gwych yn y meysydd canlynol:
      • Gwisgo artistiaid mewn ymarferion a pherfformiadau
      • Mân waith cynnal a chadw gwisgoedd.
      • Gofalu am esgidiau, hetiau, gemwaith ac ategolion eraill.
      • Cynorthwyo gyda gosod ystafelloedd newid cyflym, yn cynnwys cario gwisgoedd trwm.

      Beth fydd ei angen arnoch chi?

      • Sgiliau goruchwyliol rhagorol, yn cynnwys y gallu i wrando, cynghori, rhoi arweiniad, dirprwyo a chyflwyno hyfforddiant ymarferol anffurfiol.
      • Profiad amlwg o oruchwylio timau gweithredol dan bwysau.
      • Dull cydymdeimladol wrth ymdrin â phobl sy'n gweithio dan bwysau mewn amgylchedd artistig.
      • Sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad o redeg cwpwrdd dillad a gwisgo artistiaid.
      • Sgiliau Gwnïo Sylfaenol.
      • Dealltwriaeth ymarferol o arferion Iechyd a Diogelwch cyfredol sy'n berthnasol i'r rôl.
      • Sgiliau TG digonol, yn cynnwys defnyddio Outlook, Word ac Excel.
      • Agwedd hyblyg at ofynion y swydd.

      Beth allwn ni ei gynnig i chi?

      Cyflog Cystadleuol £14.32 yr awr
      Gwyliau Blynyddol Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
      Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
      Aelodaeth Campfa Mae’r holl weithwyr yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy’n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
      Gostyngiadau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.
      Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
      Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
      Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

      Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

      Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Carys Davies ar carys.davies@wno.org.uk.

      Cyfeiriadur rhwydwaith

      Ymunwch â'r rhwydwaith

      Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.