Prif Weithredwr

Cyflog
c£50-55,000
Location
Aberhonddu
Oriau
Full time
Closing date
26.08.2025

Postiwyd gan: Andy_Collinson

Dyddiad: 5 August 2025

Dewch i arwain pennod newydd flaengar i ddiwylliant yng nghanol Cymru.

Mae Theatr Brycheiniog, a leolir ynghanol tirwedd eithriadol Bannau Brycheiniog yng nghanolbarth Cymru, yn chwilio am arweinydd eithriadol – rhywun sy’n meddu ar weledigaeth, gwytnwch a mentergarwch masnachol – i helpu i roi siâp ar bennod nesaf ein trawsnewidiad.

Dyma gyfle prin i arwain sefydliad diwylliannol sy’n annwyl gan gynifer, tuag at ddyfodol bywiog a chynaliadwy; dyfodol ble mae creadigrwydd yn ffynnu, ble mae pobl yn ymgysylltu, a ble mae’r celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau ein cymunedau.

Rydyn ni eisoes wedi gosod sylfeini cryfion:
•             Mae diweddariad cyfalaf gwerth £2 miliwn wedi adfywio ein lleoliad.
•             Mae prydles 25 mlynedd newydd yn sicrhau ein lle ynghanol y gymuned.
•             Mae ein Cyfarwyddwr Dros Dro wedi hwyluso ein strwythur, cryfhau’r rhaglen, ac agor ffynonellau incwm newydd.

Nawr, dyma ni’n barod i gymryd y cam nesaf – ac rydyn ni’n chwilio am rywun i arwain y newid hwnnw; rhywun all droi gweledigaeth yn weithredu, sy’n barod i ail-ddychmygu beth all theatr fod, nid yn unig fel lleoliad, ond fel canolbwynt creadigol, lleoliad dinesig, a chartref diwylliannol i bawb.

Byddwch chi’n darparu: 
•             Cofnod profedig o arwain gyda gwytnwch a gweledigaeth strategol
•             Profiad helaeth ar y lefel uwch yn y sector gelfyddydol neu elusennol
•             Dealltwriaeth ariannol gref a record lwyddiannus o godi arian
•             Meddylfryd entrepreneuraidd gyda brwdfrydedd ac egni creadigol
•             Gallu profedig i arwain o ran arloesi ac ysbrydoli newid trawsnewidiol
•             Ymrwymiad i rymuso a datblygu tîm a thyfu sefydliad
•             Llwyddiant y gellir ei ddangos o ddarparu newid ystyrlon mewn cyd-destun celfyddydol neu elusennol
•             Eiriolwr angerddol dros y celfyddydau a’u grym i gyfoethogi a thrawsnewid bywydau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad amrywiol a chynhwysol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad byw o anabledd a niwroamrywiaeth, cymunedau sydd ar yr ymylon cymdeithasol-economaidd, ac o’r mwyafrif byd-eang.  

 

Os ydych chi’n arweinydd cryf, sy’n llawn dychymyg ac wedi eich symbylu, sy’n edrych am gyfle i wneud argraff go iawn – a gwneud hyn oll yn un o leoedd harddaf Prydain – byddem ni’n falch iawn o glywed oddi wrthych. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.