Prif Swyddog Cynnwys

Cyflog
Bydd cyflog a gynigir yn gymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.
Location
Un o swyddfeydd S4C Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon.
Oriau
Full time
Closing date
09.12.2024
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 22 November 2024

Dyma gyfle gwych i unigolyn rhagorol i ymuno â S4C ar adeg drawsnewidiol yn ei hanes.  

Mae rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn allweddol i ddatblygu strategaeth cynnwys feiddgar ac arloesol, sy’n gwasanaethu cynulleidfa eang ac yn denu siaradwyr newydd at y Gymraeg. 

Yn arweinydd ysbrydoledig, gydag agwedd greadigol ynghyd â thystiolaeth amlwg o'r gallu i reoli unigolion, timau a perthynas partneriaid mewn ffordd deg a chymodol, byddwch yn berchen ar sgiliau rhyngbersonol eithriadol, yn gyfathrebwr/wraig naturiol  gyda lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol a’r  gallu i greu a diwallu datrysiadau arloesol.

Bydd gennych ddealltwriaeth glir o anghenion newidiol cynulleidfaoedd yn yr oes ddigidol a gweledigaeth ar gyfer comisiynu cynnwys gafaelgar ar gyfer amrywiol blatfformau S4C. Byddwch yn creu yr amgylchedd i feithrin a datblygu talent newydd yng Nghymru. 

Byddwch yn craffu ar ddata i anelu yn barhaus i dyfu ac ehangu ein cynulleidfaoedd, a bydd gennych feddwl craff ac ymwybyddiaeth fasnachol fydd yn gwneud y defnydd gorau o’r ffi drwydded.  

Bydd gennych brofiad sylweddol o gynhyrchu a chomisiynu cynnwys ynghyd ag hygrededd ac enw da o fewn y sector gynhyrchu a’r byd darlledu. Byddwch yn gyfathrebwr cryf fydd yn medru siarad ar ran S4C i feithrin perthnasau cryf a buddiol gyda phartneriaid. 

Bydd y Prif Swyddog Cynnwys yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth S4C a Bwrdd Unedol S4C.

Mae’r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 10.00yb ar ddydd Llun 9 Rhagfyr 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Bydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.