Mae Poetry Wales yn chwilio am Brawfddarllenydd tan fis Rhagfyr 2024.
Cyfnodolyn a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn yw Poetry Wales. Mae'n cyhoeddi barddoniaeth gyfoes gan rai o'r beirdd mwyaf cyffrous o bedwar ban y byd. Yn 2025 byddwn yn dathlu trigain mlynedd o'r cyhoeddiad, a chyda chymorth Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, gallwn ariannu nifer o swyddi cyfnod penodol i'n helpu i gynhyrchu rhifynnau cyntaf Cyfrol 60.
Disgrifiad Swydd
Ein hymgeisydd delfrydol fydd rhywun sydd:
- Â llygaid craff am fanylion
- Rhywfaint o brofiad prawfddarllen
- Yn hunan-gymhellol ac yn gallu gweithio o fewn terfynau amser llym
- Yn gyfathrebwr cryf
- Â phrofiad bywyd o hiliaeth, ableddiaeth, trawsffobia, homoffobia ac/neu dlodi
Mae Poetry Wales bob amser yn agored i ystyried buddsoddi mewn rhywun a all ddangos potensial datblygu i ni yn y rôl hon, er efallai na fyddant yn gallu dangos pob un o’r meini prawf delfrydol a restrir uchod.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn sesiynau hyfforddi ar olygu a chynhyrchu cyfnodolion proffesiynol a golygu ymarferol.