Mae Boom Cymru yn chwilio am Berson Gwisgoedd Dan Hyfforddiant i ymuno â thîm gwisgoedd profiadol ar gynhyrchiad drama o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Gofynion y Rôl:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i’r Cynllunydd Gwisgoedd a rywfaint o brofiad proffesiynol yn y maes, yn ogystal â dealltwriaeth dda o egwyddorion, gwaith a rôl yr adran wisgoedd wrth gynhyrchu teledu a ffilm.
Cyfrifoldebau’r Rôl:
Cynorthwyo’r Cynllunydd Gwisgoedd a’r Is-gynllunydd Gwisgoedd yn yr holl ddyletswyddau er mwyn sicrhau bod gwaith yr adran yn cael ei gwblhau’n ddi-drafferth.
Bod ar gael i gynorthwyo ar set yn ôl yr angen – ar leoliad neu yn y swyddfa.
Cynorthwyo i gadw golwg ar lefel y stoc ar gyfer gwaith dyddiol yr adran.
Cyfathrebu gyda’r tîm a gydag adrannau eraill.
Y gallu i reoli a blaenoriaethu tasgau o fewn amser penodedig yn effeithlon.
Danfonwch CV at hr@boomcymru.co.uk Ionawr 14eg 2023
Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a'i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/) Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach.