Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hon yn rôl sy'n ganolog i'r trawsnewid sydd ei angen ar S4C i gyflawni ein hamcanion strategol ar gyfer 2025 – 2030. Mi fydd yn arwain ar strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan a digidol yn gyntaf S4C.
Bydd y Pennaeth Ffrydio a Digidol yn sicrhau bod ein cynnwys ar gael, ac yn weledol, ar y llwyfan mwyaf addas i'r gynulleidfa darged.
Bydd y rôl yn gweithio gyda'r timau comisiynu, cyhoeddi, digidol, marchnata, ymchwil a datblygu cynnyrch, i sicrhau bod holl gynnwys S4C yn cael ei ddosbarthu a'i flaenoriaethu ar draws y llwyfannau digidol mwyaf perthnasol, gan ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd a sicrhau'r gwerth gorau i S4C. Bydd yn sicrhau bod S4C:
- Yn ddeniadol, o ran diwyg a dewis o gynnwys ar ein llwyfannau drwy guradu effeithiol a delweddau cryf.
- Ar flaen y gad gyda datblygiadau technolegol newydd ar ein chwaraewr ein hunain, i wella'r profiad gwylio.
- Yn amlwg ac yn atyniadol ar blatfformau 3ydd parti, fel BBC iPlayer ac YouTube.
Bydd yn cyfrannu at lywio ein cynnwys i ateb gofynion ein cynulleidfaoedd digidol a'r newid diwylliannol sydd ei angen ar gyfer trawsnewid digidol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol ar draws y sector.
Bydd gennych brofiad o gynhyrchu cynnwys aml-blatfform a dealltwriaeth dda o strategaethau cyhoeddi ar blatfformau digidol.
Bydd rôl arweinyddol yn yr adran hon yn hanfodol i sicrhau ein bod yn diogelu S4C yn y dyfodol yn y farchnad heriol newydd tra'n datblygu sgiliau a dealltwriaeth y sector gynhyrchu.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £80,000 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 16 Mehefin 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Iau 26 Mehefin 2025
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.