Mae gan Adran Gyfathrebu Canolfan Mileniwm Cymru rôl hanfodol wrth adeiladu enw da'r sefydliad trwy ymgysylltu'n rhagweithiol ac yn strategol â'r cyfryngau ac ystod o randdeiliaid allanol a mewnol.
Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn gyfrifol am sicrhau bod gennym broffil positif trwy gyfleu negeseuon allweddol i'r cyfryngau, ystod o randdeiliaid allanol a chynulleidfaoedd mewnol, a thrwy ymdrin ag ymholiadau adweitheddol gan y cyfryngau mewn modd arbenigol.
Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn gweithredu fel llefarydd ar ran y Ganolfan wrth ddelio â’r cyfryngau ac arwain ar strategaeth ein hymgyrchoedd cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus - gan gynnwys perfformiadau yn Theatr Donald Gordon, Stiwdio Weston a Cabaret, cynyrchiadau a digwyddiadau mewnol Canolfan Mileniwm Cymru ynghyd â’r gwaith sy’n digwydd oddi ar y llwyfan gan gynnwys ein rhaglenni dysgu creadigol a gweithgareddau ar gyfer ymwelwyr.