Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
- Mae'r Adran Gwasanaethau Technoleg yn gyfrifol am reoli a chefnogi'r rhwydwaith technoleg sy'n galluogi CMC a'i phreswylwyr i weithredu'n effeithlon, yn ddiogel ac yn arloesol. Mae'n chwarae rhan hanfodol yn ein gweithrediadau dyddiol a’n cynllunio strategol hirdymor. Fel Peiriannydd Desg Gymorth TG llinell gyntaf, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl staff a phreswylwyr sydd angen cymorth TG. Bydd disgwyl i chi ddarparu lefel eithriadol o wasanaeth mewn adran brysur a deinamig, a gweithio'n agos gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Technoleg a Chysylltiadau Cwsmeriaid ar brosiectau strategol.
- Mae arloesedd yn bwysig i ni ac yn rhan fawr o'r gwaith a wnawn yn y tîm Gwasanaethau Technoleg. O fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithredu systemau seiberddiogelwch soffistigedig, wedi cyflwyno WiFi lefel menter ar draws yr adeilad, wedi uwchraddio'n ddiweddar i'r fersiwn ddiweddaraf o'n system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a’n system tocynnau (Tessitura) ac wedi gweithredu system omni-sianel newydd sy'n seiliedig ar y cwmwl (ffôn, e-bost a gwe-sgwrs integredig) yn ein canolfan gyswllt.
- Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill. Rydym yn edrych i weithredu ap dosbarthu tocynnau ac archebu diodydd cyn sioe newydd, adnewyddu ein seilwaith rhwydweithio mewnol craidd, ynghyd â rhai prosesau a systemau awtomeiddio trawsnewidiol sy'n seiliedig ar AI.
- Byddwn hefyd yn cyflwyno prosiect mawr yn ystod y blynyddoedd nesaf pan fyddwn yn agor ein hadeilad ymdrochol digidol newydd o fewn 400 llath o'n hadeilad eiconig. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu technoleg arloesol a fydd yn tanio'r dychymyg ledled Cymru a thu hwnt.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i weithio fel rhan o'r tîm Gwasanaethau Technoleg. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig a fydd yn gallu helpu i wasanaethu anghenion TG ein staff a'n preswylwyr yn ogystal â meddwl am syniadau a ffyrdd newydd ac arloesol i wella sut mae technoleg yn cael ei defnyddio o fewn y busnes.
Fel Peiriannydd Desg Gymorth TG llinell gyntaf, byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Gweithrediadau TG, gan helpu i redeg a chynnal ein gweithrediadau cymorth TG dyddiol ar y safle. Bydd eich swydd yn cynnwys: -
- Sicrhau bod Desg Gymorth TG yn cael ei monitro o fewn oriau busnes, gan ofyn am gefnogaeth gan aelodau eraill y tîm lle bo'n briodol.
- Ysgogi a mentora aelodau o’r tîm.
- Ymateb i geisiadau am gefnogaeth gan gwsmeriaid mewn modd proffesiynol ac amserol, gan ddarparu atebion ac adborth o fewn y lefelau gwasanaeth a gytunwyd, a’u huwchgyfeirio lle bo'n briodol.
- Rheoli llif gwaith y ddesg gymorth mewn modd rhagweithiol, gan gynnal dadansoddiad o wraidd materion sy’n codi ynghyd ag argymhellion ar gyfer gyrru gwelliant parhaus.
- Bod yn arloesol a datrys problemau i sicrhau gwasanaeth desg gymorth TG effeithiol.
- Canfod a datrys materion technegol ar draws ystod o ddyfeisiau.
- Cywiro diffygion sylfaenol o bell trwy ddefnyddio technegau diagnostig a chwestiynau perthnasol.
- Gosod a ffurfweddu caledwedd a meddalwedd awdurdodedig yn ôl yr angen.
- Defnyddio eich sgiliau rhyngbersonol i feithrin perthnasoedd cryf â’n timau, cyflenwyr a rhanddeiliaid allanol.
- Gweinyddu cyfrifon ar gyfer dechreuwyr a rhai sy'n gadael, a ffurfweddu dyfeisiau fel y bo'n briodol.
- Cynnal adolygiadau mynediad ar draws meddalwedd fel Microsoft 365, Active Directory ac elfennau SaaS eraill.
- Sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer pwyntiau terfyn a meddalwedd defnyddwyr terfynol, gan gyflwyno diweddariadau newydd yn ôl yr angen.
- Cynnal cofrestrau asedau a rhestrau eiddo yn ôl yr angen.
- Bod yn gyfrifol am drefnu’r holl elfennau technoleg ar gyfer Cyfarfodydd Staff Mawr.
- Sicrhau cyfrinachedd bob amser a chydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n briodol i lefel y swydd.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn broffesiynol, gan deilwra iaith yn ôl yr angen i esbonio materion technegol i gynulleidfa annhechnegol.
- Y gallu i gydbwyso sawl llif gwaith ar yr un pryd, gan flaenoriaethu'n briodol.
- Profiad o Microsoft Endpoint a systemau cynhyrchiant megis Windows 11 ac Office 365.
- Sgiliau rhagorol wrth ymdrin â chwsmeriaid.
- Sylw manwl at fanylder, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud "yn iawn y tro cyntaf".
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos gwaith 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
- Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.