Pedair gwyl gelfyddol Gymreig yn ymuno i gyflwyno GŴYL 2021; gwyl ar-lein am ddim

Mae pedair o hoff wyliau Cymru  Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth – wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod clo i greu Gŵyl 2021gŵyl ar-lein am ddim yn llawn dop â cherddoriaeth a chomedi cofiadwy, sy’n cofleidio amrywiaeth a sgwrs. Wedi’i gipio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn rhyngwladol o dan ganllawiau Coronafeirws, bydd Gŵyl 2021 ar gael ar draws y DU ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth.

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 10 February 2021

Hero image - Cate Le Bon performing

Mae Gŵyl 2021 yn ddigwyddiad digidol heb ei ail ar gyfer cyfnod digynsail, sy’n taflu goleuni, gobaith a gwytnwch y sin greadigol yng Nghymru. Wedi bron flwyddyn o gadw pellter cymdeithasol, mae Gŵyl 2021 yn nodi undod emosiynol – rhwng artistiaid a chynulleidfaoedd, o Gymru a’r byd. Mae’n cydnabod bod pŵer yn ein llais cyfunol, a thaw mewn undod mae nerth.

Fel pob gŵyl gwerth ei halen, bydd Gŵyl 2021 yn dathlu lleisiau cyfarwydd ac yn darganfod lleisiau eclectig a newydd, o Gymru a thu hwnt. Mae’r artistiaid yn cynnwys Cate Le Bon yn cydweithio â Gruff Rhys, yr arobryn Kiri Pritchard-McLean, Tim Burgess’ Listening Party, a Catrin Finch; yn ogystal â BERWYN (BBC Music Sound of 2021), Carys Eleri (enillydd Gŵyl Fringe Adelaide), Arlo Parks a Dani Rain, sef drymiwr y grŵp Neck Deep.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill mae Charlotte Adigéry, Adwaith – y grŵp ‘post-punk’ a enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Sinead O’Brien y Wyddeles sy’n fardd ac yn arloeswr ‘art rock’, a Jordan Brookes enillydd Gwobr Comedi Caeredin; Ani Glass a enillodd wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn, Sprints y grŵp o Ddulyn, N’Famady Kouyate – y cerddor o Gini, sy’n byw yng Nghaerdydd, a’r grŵp sgetsh Tarot. Mae cwmni dawns Jukebox Collective hefyd wedi curadu perfformiadau gan yr artist reggae Aleighcia Scott, yr artist RnB/canu enaid Faith, y rapiwr King Khan, y canwr a rapiwr Reuel Elijah a’r artist gair llafar JAFFRIN a rhagor.

Bydd perfformiad ecsgliwsif, unigryw gan Brett Anderson, Charles Hazlewood a Paraorchestra, yn cyflwyno’r gwesteion arbennig Nadine Shah, Adrian Utley a Seb Rochford, yn ogystal â phenodau arbennig o’r podlediad comedi Welcome to Spooktown ac I Wish I Was an Only Child, gydag ambell i westai gwadd cyfarwydd.

Bydd cynnwys o’r ŵyl ar gael ar blatfformau eraill, hefyd; mae FOCUS Wales wedi trefnu darllediad o Eternal Beauty, ffilm newydd gyda chast yn cynnwys David Thewlis a Sally Hawkins, a detholiad o’r gerddoriaeth newydd orau o Ganada a Québec, y cyfan i’w ffrydio ar yr app diwylliannol Cymreig AM Cymru, 5-10 Mawrth 2021. Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau ecsgliwsif o Leisiau Eraill Aberteifi yn y dyfodol (dyddiad i’w gadarnhau).

Mae bob ymarfer, sesiwn ffilmio a recordio wedi digwydd, neu’n mynd i ddigwydd o fewn canllawiau Coronafeirws lleol. Mae’r holl gynnwys a gafodd ei greu yng Nghymru wedi’u wneud mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru.

Bydd modd mwynhau cynnwys yr ŵyl eto am saith diwrnod ar www.bbc.co.uk/gwyl2021 ac ar draws BBC Cymru Wales.

 

Dwedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru:
“Mae Gŵyl y Llais wedi bod yn uchafbwynt ein calendr ers 2016, ac roedd gŵyl y llynedd yn argoeli i fod yn wych. Yn sgil y pandemig, canslwyd ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol, ond rydyn ni wrth ein boddau’n cydweithio â phartneriaid ardderchog i gyflwyno Gŵyl 2021 ym mis Mawrth. Daw â’r gorau o’r pedair gŵyl, ynghyd â’n chwilfrydedd a’n hangerdd dros fwynhau perfformiadau gwych. Gobeithiwn y daw’r ŵyl ag ychydig o lawenydd i’w chynulleidfa ar ddechrau’r gwanwyn.”

Dwedodd Henry Widdicombe, Gŵyl Gomedi Aberystwyth:

"Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio â thair gŵyl Gymreig anhygoel, er mwyn cyflwyno’r digwyddiad ar-lein yma ym mis Mawrth. Er bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol a digynsail i’r sector digwyddiadau, mae digwyddiad fel hwn yn dangos bod y gymuned gelfyddydol wedi dod ynghyd o ganlyniad i’r heriau. Mae’r rhaglen sy’n cael ei churadu yn ardderchog, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan ohoni."

Dwedodd Neal Thompson, FOCUS Wales:

"Mae’n bleser bod FOCUS Wales wedi gallu gweithio mewn partneriaeth â thair o wyliau mwyaf adnabyddus Cymru, i greu Gŵyl 2021. Yn dilyn blwyddyn dywyll ac anodd i bob un ohonom ni, rydyn yn edrych ymlaen yn fawr at ddod ynghyd a dathlu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru gyda rhaglen o gerddoriaeth a chomedi rhagorol."

Dwedodd Dilwyn Davies, Lleisiau Eraill Aberteifi:

“Mae Lleisiau Eraill a Mwldan yn hynod gyffrous am y syniad o benwythnos anhygoel o gerddoriaeth a chomedi o Gymru, a’r cyfan wedi’i greu a’i rannu ar draws y DU gan ein partneriaid hyfryd. Yn ystod cyfnod o wahaniad, pellter a chyfnod cloi, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod ni – artistiaid, cynulleidfaoedd a chriw – yn dod ynghyd i rannu a dathlu cyfoeth ein diwylliant amrywiol.”

Dwedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:

“Mae BBC Cymru Wales wrth ei bodd yn cydweithio â Gŵyl 2021. Rydyn ni gyd angen tamaid o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth ar hyn o bryd, ac mae’r bartneriaeth newydd hon rhwng pedair gŵyl Gymreig wych yn argoeli i fod yn wych.”

Dwedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cefnogi’r bartneriaeth Gymru gyfan yma, a fydd yn rhannu’r gorau o’r gwyliau arbennig gyda chynulleidfa eang. Drwy gydol y pandemig, mae’r sector digwyddiadau a chreadigol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn dod â phobl at ei gilydd i rannu a dathlu, a hynny mewn ffordd arloesol. Maent wedi rhoi gobaith ac adloniant yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event