Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Partner Busnes Adnoddau Dynol
Ystod Cyflog: £37,167 - £39,163 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 1 Tachwedd 2023
Dyddiad Cyfweld:7th & 10th Tachwedd 2023
Amdanom Ni/Ein Hadran
Rydym yn chwilio am Bartner Busnes Adnoddau Dynol i ymuno â'n sefydliad cyffrous a chydnabyddedig. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl, yn gweithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau a byddem wrth ein bodd i’ch croesawu i’n tîm.
Rydym yn dîm AD sy'n canolbwyntio ar wella profiad gweithwyr trwy awtomeiddio ein prosesau, creu amgylchedd gwaith ysbrydoledig a deniadol a hyrwyddo arferion gorau o ran mentrau Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae gennym agenda cynhwysfawr ar gyfer ein Pobl a dyma gyfle i chi chwarae rhan allweddol ynddi.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau
Bydd y rôl yn atebol i’r Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol a bydd yn cefnogi ac yn hybu gweithrediad strategaeth pobl Canolfan Mileniwm Cymru.
Byddwch yn arwain y tîm gweithrediadau AD i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'r sefydliad, gan ysgogi, hyfforddi a datblygu pob aelod o'r tîm i fodloni'r lefelau perfformiad a ddisgwylir. Byddwch yn rhoi mentrau a gwelliannau ar waith ar draws yr holl brosesau AD allweddol gan gynnwys caffael talent, croesawu a ffarwelio, prosesu’r gyflogres, rheoli systemau a chynhyrchu adroddiadau AD effeithiol yn rheolaidd.
Byddwch yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i arweinwyr Canolfan Mileniwm Cymru ym mhob maes AD i gefnogi cyflawniad gweledigaeth y Ganolfan, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, rheoli absenoldeb, rheoli perfformiad, dysgu a datblygu, gwobrwyo a chydnabod, ymgysylltu â gweithwyr a chysylltiadau gweithwyr.
Gellir cyflawni'r rôl hon ar sail hybrid ond bydd angen o leiaf 3 diwrnod ar y safle.
Gofynion Allweddol
- Bydd gennych ddealltwriaeth gyffredinol gref o bob maes AD, gan gynnwys caffael a datblygu talent, ymgysylltu â gweithwyr, deddfwriaeth cyflogaeth a chysylltiadau gweithwyr
- Profiad amlwg o arwain a datblygu timau AD
- Byddwch wedi arwain yn llwyddiannus ar ystod o fentrau gwella AD ar draws systemau, awtomeiddio prosesau a gwelliannau, gyda sgiliau rheoli prosiect amlwg i gyflawni prosiectau gwella AD yn effeithiol, ar amser a chyda lefel uchel o ansawdd ac ymgysylltiad
- Y gallu i ddatrys problemau yn hyderus, adnabod atebion a'u rhoi ar waith yn gyflym
- Yn ddelfrydol, byddwch yn aelod o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu neu gyfwerth.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol)