Mae Caerdydd Creadigol eisiau parhau i ddod â phobl ynghyd i gwrdd â chydweithio yn 2023. O fis Chwefror ymlaen, rydym yn lansio cyfle rhwydweithio misol newydd ar gyfer artistiaid, busnesau bach a gweithwyr llawrydd creadigol, o’r enw ‘Paned i Ysbrydoli’. Bydd y digwyddiadau rhwydweithio hyn yn dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd ar gyfer y tair 'C' hollbwysig – cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.
Bydd Paned i Ysbrydoli yn cael ei chynnal ar ddydd Iau cyntaf pob mis.