Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein. Rydym yn falch iawn o ddod â’r digwyddiad hwn i Fro Morgannwg am y tro cyntaf ym mis Ebrill, gyda Paned i Ysbrydoli yn Tramshed Tech, y Barri.
Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu a dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.
Bydd y bardd Duke Al Durham yn ymuno â ni a fydd yn dechrau'r sesiwn gyda sgwrs 20 munud ar ddod yn fardd llawrydd.