Paned i Ysbrydoli: Creu cynnwys digidol (RhCT)

04/04/2024 - 10:00
YMa Pontypridd Taff Street Pontypridd CF37 4TS
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth â Cyngor Sir Fynwy, yn cynnal cyfarfod misol rhwng mis Ionawr - mis Ebrill ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â chymuned greadigol Sir Fynwy at ei gilydd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Creu cynnwys digidol

Bydd Paned i Ysbrydoli'r mis hwn yn dechrau gyda sgwrs fer gan y newyddiadurwraig a'r ysgrifenwraig gopi, Amy Pay, ar creu cynnwys.

Mae Amy Pay yn newyddiadurwr llawrydd profiadol iawn, yn ysgrifennwr copi ac yn ymgynghorydd creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Gyda chefndir amrywiol yn y cyfryngau print, darlledu a newyddiaduraeth ddigidol, mae hi'n defnyddio ei sgiliau i helpu pobl i gyfleu eu straeon trwy eiriau, strategaeth a syniadau creadigol. Mae hi wedi gweithio gyda chleientiaid mawr a bach, gan gynnwys Lonely Planet, Visit Wales, The Telegraph, Evening Standard a The Guardian, gyda'i arbenigeddau yn cynnwys teithio yn y DU, busnesau bach, coffi arbenigol a diwydiannau creadigol. Fel gweithiwr llawrydd, mae Amy yn mwynhau cael y rhyddid i gofleidio pob math o hobïau creadigol, o grochenwaith a threfnu blodau i gerddoriaeth a gemau fideo.

Digwyddiad Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol, darllenwch fwy.

Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.

Archebu eich lle.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event