Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud?
Ydych chi’n teimlo’n flin am gyflwr y byd ar hyn o bryd?
Ydych chi’n teimlo bod yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch dyfodol yn cael ei anwybyddu?
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o’r dosbarth gweithiol sy’n teimlo’n angerddol am sicrhau newid – nad ydyn nhw efallai’n gwybod ble i ddechrau, ond sydd eisiau dysgu, gwneud ffrindiau a bod yn rhan o fudiad dros newid.
Mae Take Your Place yn brosiect celfyddydau a gweithredu ar gyfer pobl ifanc dosbarth gweithiol. Drwy gyfres o weithdai creadigol 12 wythnos o hyd, bydd pobl ifanc yn archwilio pwy ydyn nhw, pam mae hynny’n bwysig a beth sy’n bwysig iddyn nhw.
Byddwn yn ymchwilio’n fanwl i themâu pŵer, arweinyddiaeth, trefnu cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol ac yn cydweithio i greu ymateb creadigol.
Byddwn yn cyfarfod yn wythnosol ar dydd Mercher rhwng 6-8:30 pm ym Mhafiliwn y Grange. Bydd y prosiect yn dechrau o Ionawr 7fed tan Fawrth 31ain.
Byddwn yn talu £10 y pen mewn treuliau ar gyfer pob sesiwn; gellir talu hyn drwy drosglwyddiad banc neu mewn talebau siopa. Nid oes angen prawf o dderbynebau treuliau arnom. Yn ogystal â hyn, os ydych chi’n byw mewn rhan wahanol o Gaerdydd, gallwn ni dalu eich costau cludiant yno ac yn ôl ar gyfer pob sesiwn. Rydyn ni’n awyddus i gael pobl ifanc o bob cwr o’r ddinas.
Mae gennym broses ymgeisio fer ar-lein, a gallwn hefyd helpu gyda cheisiadau yn ein sesiynau blasu. I wneud cais, atebwch y cwestiynau canlynol drwy e-bost. Mae croeso i chi deipio, ysgrifennu neu wneud fideo o’ch ymateb.
- Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun wrthym
- Beth hoffech chi ei newid yng Nghaerdydd?
- Rhannwch ffotograff, ysgrifen, neu lun gyda ni o rywbeth sy’n hollbwysig i chi.
I anfon eich cais drwy e-bost, anfonwch ef at eugenia@commonwealththeatre.co.uk
Os ydych yn cael unrhyw drafferth gwneud cais neu os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag eugenia@commonwealththeatre.co.uk
