
Yn y degawd ers iddo gael ei sefydlu, mae Caerdydd Creadigol wedi ymgysylltu â mwy na 6,000 o bobl greadigol.
Mae wedi cynnal 140 o ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein dros y 10 mlynedd, gan gynnwys cyfarfodydd rhwydweithio rheolaidd, gweithdai datblygu sgiliau, cyfleoedd i gydweithio a digwyddiadau cymdeithasol.
Dywedodd Katie Bowen, myfyrwraig ar MA Prifysgol Caerdydd mewn Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol:
Mae Caerdydd Creadigol wedi chwarae rhan mor fawr yn fy nhaith, o gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy ar gyfer fy ymchwil i'm helpu i ennill y math o brofiad, hyder a chysylltiadau sydd wedi llywio cyfeiriad fy ngyrfa.
Cynhaliodd y rhwydwaith, a lansiwyd gan Yr Athro Sara Pepper yn 2015, hefyd y podlediadau Get A ‘Proper’ Job a ‘Rhywbeth Creadigol?' ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer. Mae’n dathlu ac yn tynnu sylw at bobl greadigol Caerdydd yn rheolaidd mewn cyfweliadau, erthyglau a’i gylchlythyr misol. Mae hefyd yn gwneud ymchwil i’r economi greadigol yng Nghymru.

Mae Caerdydd Creadigol wedi dyfarnu £80,000 ar ffurf comisiynau i fwy na 60 o bobl greadigol ar gyfer ystod o brosiectau, sydd i gyd wedi uno a datblygu ecosystem y diwydiannau creadigol
Dywedodd y darlunydd, Jack Skivens:
Fe wnaeth Caerdydd Creadigol roi gwybod i mi fod yna olygfa greadigol ehangach yng Nghaerdydd. Fel artist llawrydd, dydych chi ddim bob amser yn gwybod ei bod hi yno na ble i ddod o hyd iddi, ac fe wnaethon nhw helpu i agor y drws i'r ochr hon o Gaerdydd. Fe wnaethon nhw helpu gyda fy hyder i allu bod yn ddarlunydd a chredu y gallwn i ei wneud yma, yng Nghaerdydd.

Mae hefyd wedi helpu i lenwi mwy na 5,000 o swyddi creadigol yn lleol drwy ein hysbysfwrdd swyddi a rhestru mwy na 200 o leoedd yn y ddinas a’r rhanbarth ymhlith cyflawniadau’r rhwydwaith.
Cymerwch olwg ar un o'n comisiynau diweddar ar gyfer ein pen-blwydd yn 10 oed gan Jasmin Hedger:
Part of our activity to mark our 10th, find out more about each of our commissioned artists.
Rhan o'n gweithgaredd i nodi ein 10fed pen-blwydd, dysgwch fwy am bob un o'n hartistiaid a chomisiynwyd.
Dywedodd y cyd-sylfaenydd, yr Athro Justin Lewis o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae Caerdydd Creadigol yn ceisio canolbwyntio ar gydweithio rhwng byd diwydiant, y byd academaidd, llunwyr polisïau a’r cyhoedd er mwyn ysgogi newid (y model helics pedwarplyg). Cafodd ein haelodau sefydlu, y mae BBC Cymru Wales, Canolfan Mileniwm Cymru a Chyngor Caerdydd yn eu plith, eu dewis yn ofalus i ddangos ein hymrwymiad i gyd-greu a gweithio mewn partneriaeth.
Roedden ni hefyd yn gwybod bod gwir angen creu sylfaen dystiolaeth sy’n dangos effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd y diwydiannau creadigol yn y rhan hon o’r byd. Gan fod Caerdydd Creadigol yn gweithredu o Brifysgol Caerdydd, mae'r math hwn o ymchwil a hefyd rhannu gwybodaeth yn rhan o’n DNA.
Mae hyrwyddo’r arloesi sy’n digwydd yn y diwydiannau creadigol a’u potensial o ran twf wedi bod ymhlith prif rolau’r rhwydwaith. Oherwydd ei allu i ddod â phobl ynghyd, ei sylfeini ar lawr gwlad a’i ddylanwad ym myd diwydiant, Caerdydd Creadigol oedd wedi ysgogi’r cynnig i Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol, a arweiniodd at greu’r prosiect arloesi Clwstwr (gwerth £10m) a chyflawni dros 100 o brosiectau ymchwil a datblygu creadigol. Yn sgîl Clwstwr, cafodd cais llwyddiannus am gyllid gan y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd ei ddatblygu i lansio Media Cymru, sef rhaglen gwerth £54m i wneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi ym maes y cyfryngau.

Dyma a ddywedodd yr Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd:
Mae’r hyn mae Caerdydd Creadigol yn ei wneud yn bwysig iawn i Brifysgol Caerdydd – dyma bont rhwng y byd academaidd, byd diwydiant a chymunedau creadigol. Mae'n eithaf anarferol i rwydwaith creadigol gael ei leoli o fewn prifysgol, ond rwyf mor falch bod Caerdydd Creadigol wedi canfod cartref yma. Dyma bartneriaeth sy'n adlewyrchu'r gorau o'r hyn y gall prifysgolion fod: yn agored, yn gysylltiedig â phob dim ac yn rhan annatod a dwfn o'r cymunedau o'u hamgylch.
Bydd Caerdydd Creadigol yn lansio mentrau newydd yn 2026. Ymhlith y rhain mae Creadigrwydd yn Creu Cyfleoedd, cyfres o weithdai a sesiynau mentora sy’n canolbwyntio ar fenter a thwf cynaliadwy, ac arolwg i’r gymuned gyfan o anghenion y gymuned greadigol.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer ei Fforwm Cymunedol cyntaf, a fydd yn rhan o'i strategaeth ar gyfer 2026 a thu hwnt.
Dywedodd Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol:
Mae Caerdydd Creadigol yn cefnogi gwerth creadigrwydd a phobl greadigol. Ein nod yw gwneud y ddinas a'r rhanbarth yn brifddinas gysylltiedig, gydweithredol a chreadigol.
Fodd bynnag, wrth i ni nodi degawd ers sefydlu Caerdydd Creadigol, mae’n bwysig dweud ein bod yn bodoli ac yma o hyd, 10 mlynedd yn ddiweddarach, oherwydd yr holl ragoriaeth greadigol, lleoedd creadigol a phobl greadigol sy’n llywio Caerdydd ac economi greadigol y rhanbarth. Mae’r gymuned honno wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio i wneud Caerdydd yn brifddinas creadigrwydd.

Helpwch i lunio ein dyfodol
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech dreulio 10 munud yn dweud wrthym beth hoffech chi ei weld gan Gaerdydd Creadigol yn y dyfodol - bydd yr ymatebion yn ein helpu i lunio ein strategaeth ar gyfer 2026 ymlaen. Bydd pump o ymatebwyr yr arolwg hefyd yn ennill taleb gwerth £20 i Kellys Records ym Marchnad Caerdydd. Cwblhewch yr arolwg.
