Ymunwch â'n Bwrdd
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â bwrdd Omidaze Productions Ltd a helpu i’n harwain ar gam nesaf ein taith. Os ydych chi'n credu yng ngrym y celfyddydau i hysbysu, ysbrydoli a chreu newid cymdeithasol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.
Does dim angen profiad blaenorol ar fwrdd arnoch – dim ond parodrwydd i gyfrannu, dysgu a chefnogi ein gweledigaeth.
Pwy yw Omidaze?
Sefydlwyd Omidaze (Oh My Days!) Productions yn 2008 i ddefnyddio theatr, y celfyddydau a chreadigrwydd i rymuso pobl a herio’r statws quo.
Rydym yn gwmni bach, a arweinir gan werthoedd, ym Mhenarth yn ne Cymru, ac yn gweithio mewn tri maes:
- Cynnwys Creadigol (byw a digidol)
- Dysgu Creadigol
- Ymgynghoriaeth
O ysgolion haf Shakespeare i ailddehongliadau radical o'r clasuron, ac erbyn hyn brosiectau mentrus fel The Democracy Box a The Talking Shop, rydym bob amser wedi defnyddio'r celfyddydau i ofyn cwestiynau mawr – ac i agor drysau i bobl a lleisiau sy’n aml yn cael eu tangynrychioli.
Daethom yn Omidaze Productions Ltd yn 2025 – menter gymdeithasol a chwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant – i adlewyrchu ein gwerthoedd a'r byd rydym am helpu i’w lunio.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn adeiladu Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd i helpu i'n harwain i'r dyfodol.
Rydym yn chwilio am hyd at bum aelod newydd i'r bwrdd, ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd:
- Yn meddu ar brofiad byw a gaiff ei dangynrychioli mewn mannau lle gwneir penderfyniadau
- Efallai nad oes ganddynt brofiad o fod ar fwrdd nac o lywodraethu, ond maent yn awyddus i ddatblygu eu hunain a chyfrannu
- Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, gweithredu dros yr hinsawdd, ac ymgysylltu democrataidd
- Yn credu, fel ninnau, ym mhŵer y celfyddydau a diwylliant i ddylanwadu ar gymdeithas
Rydym hefyd yn croesawu'r rhai sydd â sgiliau a phrofiad mewn meysydd fel:
- Cyllid / Cyfrifeg
- Cyfreithiol / Llywodraethu
- Adnoddau Dynol
- Technoleg / Deallusrwydd Artiffisial ac arloesedd digidol
Ond peidiwch â chael eich digalonni os nad yw eich sgiliau na'ch cefndir yn cyd-fynd â rôl draddodiadol ar fwrdd – gwerthfawrogwn amrywiaeth o safbwyntiau, nid cymwysterau proffesiynol yn unig.
Ein gwerthoedd
Yn Omidaze, rydym:
- Yn cydweithio, cyd-greu a phartneru
- Yn rhoi creadigrwydd wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio ac yn dysgu
- Yn anelu at ysgogi, grymuso, hysbysu ac ysbrydoli
- Yn cael ein harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
Cawn hefyd ein gyrru gan y gred bod mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn hawl sylfaenol, ochr yn ochr â mynediad at addysg ac iechyd.
Beth mae bod yn aelod o'r bwrdd yn ei olygu?
Fel aelod o'r bwrdd (Cyfarwyddwr), byddwch yn cefnogi ac yn herio’r cwmni i aros yn driw i'w genhadaeth a'i werthoedd, yn gwneud penderfyniadau strategol, ac yn ein helpu i gynyddu ein heffaith.
Bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd y bwrdd bob chwarter (ar-lein yn bennaf), cyfrannu at drafodaethau, a bod yn ffrind beirniadol i'r cwmni a'i arweinwyr.
Swydd wirfoddol, ddi-dâl yw hon.
Rydym wedi ymrwymo i greu bwrdd cynhwysol a chefnogol. Byddwn yn darparu sesiwn anwytho / sefydlu lawn, a chymorth a hyfforddiant parhaus yn ôl yr angen.
Yn barod i fynegi diddordeb?
Os hoffech ddysgu rhagor am y cyfle hwn neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â ni.
Gallwch anfon eich mynegiant o ddiddordeb (gall hwn fod yn ysgrifenedig, fideo neu sain – pa un bynnag sydd hawsaf i chi) i: omidaze@outlook.com
Dywedwch wrthym:
- Pam mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r bwrdd?
- Yr hyn rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei gyfrannu
- Unrhyw beth yr hoffech ei ofyn neu ei angen i gefnogi eich cais
Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw 30 Tachwedd 2025.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
