Gosodiad sain a ffotograffiaeth ymdrochol sy'n rhannu straeon pobl ddall neu rannol ddall a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu bywydau.
Mae Wyth Llais yn y Tywyllwch yn osodiad synhwyraidd pwerus sy'n archwilio’r argyfwng cudd sy’n gysylltiedig â cholli golwg a'i effaith ar iechyd meddwl.
Erbyn 2030, bydd dros 2.7 miliwn o bobl yn y DU yn colli eu golwg, heb opsiynau trin - yn aml ochr yn ochr ag iselder heb ei ddiagnosio.
Ar ddangos yn Chaper 6-8 Tachwedd 12-9pm, gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymgysylltu â phrofiadau bywyd o amhariad ar y golwg drwy'r arddangosfa sain a ffotograffiaeth ymdrochol hon.
Wedi'i datblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Anglia Ruskin mewn cydweithrediad â'r artist Richard Bowers a Chlwb Ffotograffiaeth Sight Life, mae'r arddangosfa'n cyfleu myfyrdodau hynod bersonol ar effaith amhariad ar y golwg - gan gynnig cipolwg prin ar realiti ymylol sy'n cael ei esgeuluso yn aml mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Bod yn Ddynol, gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, a gynhelir rhwng 6 a 15 Tachwedd 2025. Mae Bod yn Ddynol yn cael ei harwain gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth - beinghumanfestival.org.
