Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Pennaeth Partneriaethau Masnachol
Cyflog: £55,239 - £61,212 y flwyddyn
Oriau Gwaith:35 Awr yr Wythnos
Math o Gytundeb:Parhaol
Dyddiad Cau: 10 Gorffennaf 2025
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae’r Pennaeth Masnachol yn rôl newydd o fewn CMC sy'n adrodd i'r Prif Swyddog Masnachol. Byddwch yn gyfrifol am yrru twf refeniw, datblygu partneriaethau strategol, ac alinio strategaethau masnachol â nodau cyffredinol y sefydliad. Mae'r rôl hon yn allweddol ar gyfer twf a chynaliadwyedd y sefydliad, gan effeithio'n uniongyrchol ar ein perfformiad ariannol a’n safle yn y farchnad.
Byddwch yn arwain y trawsnewidiad masnachol parhaus ar draws y sefydliad ehangach, gan herio'r status quo, a meithrin perthnasoedd effeithiol yn fewnol ac yn allanol i gyflawni'r newid a ddymunir. Byddwch yn cydweithio'n effeithiol â'r adrannau masnachol, sef Codi Arian, Gweithrediadau Cwsmeriaid a Gwasanaethau Digidol, yn ogystal â'r sefydliad ehangach, i gyflawni'r strategaeth fasnachol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
- Byddwch yn adnabod cyfleoedd busnes, partneriaethau a nawdd newydd i wneud y mwyaf o ffrydiau refeniw a hybu ein safle yn y farchnad. Byddwch yn adeiladu a chynnal perthnasoedd â phartneriaid allanol, cyflenwyr a noddwyr ar gyfer safleoedd presennol a darpar safleoedd.
- Gan weithio gyda'r Prif Swyddog Masnachol, byddwch yn ymgorffori'r model gweithredu masnachol newydd, gan adeiladu cerrig milltir i fesur llwyddiant a gyrru datblygiad ymhellach.
- Byddwch yn goruchwylio cyllidebau a chynllunio ariannol ac yn dadansoddi perfformiad i sicrhau proffidioldeb cynaliadwy a dyraniad adnoddau effeithiol. Byddwch hefyd yn mesur llwyddiant ac effaith mentrau masnachol ac yn darparu Enillion ar Fuddsoddiad mesuradwy i bartneriaid i annog adnewyddiadau a thwf.
- Byddwch yn datblygu a gweithredu strategaethau i dyfu incwm trwy weithgareddau masnachol e.e. gwerthu gwasanaethau a phartneriaethu corfforaethol.·Byddwch yn ymchwilio ac yn cynnal dadansoddiad o’r farchnad i adnabod cyfleoedd busnes newydd, gwerthuso dichonoldeb prosiectau newydd ac asesu eu heffaith ar weledigaeth strategol CMC.
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Bydd gan ymgeiswyr hanes profedig mewn rôl arweinyddiaeth fasnachol, gyda phrofiad o yrru twf refeniw a rheoli partneriaethau masnachol.
- Bydd gennych sgiliau negydu effeithiol.
- Bydd gennych brofiad amlwg o ddatblygu a gweithredu strategaethau masnachol effeithiol mewn amgylchedd sy'n delio â chwsmeriaid.
- Bydd gennych brofiad cryf o ddatblygu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer arallgyfeirio incwm.
- Bydd gennych graffter ariannol cadarn a phrofiad o reoli cyllidebau effeithiol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.