Gweinydd Bar Achlysurol

Cyflog
£12.60
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
17.07.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 3 July 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl: Gweinydd Bar Achlysurol

Cyflog: £12.60 yr awr

Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2025

Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn cychwyn 28 Gorffennaf 2025

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

  • Dyma gyfle newydd cyffrous i ymuno â’n tîm bwyd a diod sy'n ehangu yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gennym nifer o fariau ar waith ar unrhyw un adeg sy’n rhoi pleser i’n hymwelwyr ac yn tanio'r dychymyg.
  • Rydym yn chwilio am fodel rôl ar gyfer ein gwasanaeth cwsmeriaid, unigolyn a fydd yn mwynhau bodloni anghenion ein cwsmeriaid a syfrdanu ein hymwelwyr.
  • Boed yn ein caffi/bar, Ffwrnais, sydd yn hyrwyddo'r cynnyrch Cymreig gorau neu noson wych yn Cabaret, mae gennym ni rywbeth ar gyfer pawb yma yn y Ganolfan, gyda thyfiant pellach cyffrous i ddod yn ddiweddarach eleni.

O fewn y rôl hon byddwch yn:

  • Paratoi diodydd alcoholig a di-alcohol
  • Cynorthwyo gwesteion lle’n berthnasol wrth ddewis bwyd a diod a sicrhau gwybodaeth lawn o’r holl gynnyrch sydd ar gael yn y Ganolfan
  • Deall polisi'r Ganolfan mewn perthynas â defnyddio cynnyrch Cymreig a chydymffurfio â’r polisi hwn yn gyson·Sicrhau sylw at fanylder a dealltwriaeth o offer a thechnegau cymysgu diodydd
  • Sicrhau bod pob ardal fasnachol yr ydych yn gweithio ynddynt yn edrych yn ddeniadol ac yn meddu ar lefelau uchel o lanweithdra a chyflwyniad
  • Cydnabod a gweithredu yn unol ag anghenion unigol gwesteion wrth gydymffurfio â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol Bwyd a Diod, gan gymryd perchnogaeth lawn o'r digwyddiadau a'r shifftiau a ddyrannwyd i chi
  • Trin arian parod a delio gyda thrafodion cardiau credyd/debyd, gan sicrhau bod taliadau'n gywir ac yn balansio.

Anghenion Allweddol:

  • Gallu profedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.
  • Profiad o weithio'n effeithlon ac effeithiol mewn amgylchedd gwasanaeth prysur.
  • Yn gymwys a phrofiadol wrth drin arian parod.
  • Gwybodaeth sylfaenol am safonau diogelwch bwyd.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • Hyblygrwydd o ran oriau gwaith - dewiswch y shifftiau/oriau gwaith sy’n addas i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
  • Cyflogwr cyflog byw go iawn
  • Hawl i bensiwn Now
  • Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar-lein
  • Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
  • Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru

    Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

    Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

    Cyfeiriadur rhwydwaith

    Ymunwch â'r rhwydwaith

    Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.