Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Teitl y Rôl: Gweinydd Bar Achlysurol
Cyflog: £12.60 yr awr
Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf 2025
Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn cychwyn 28 Gorffennaf 2025
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
- Dyma gyfle newydd cyffrous i ymuno â’n tîm bwyd a diod sy'n ehangu yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gennym nifer o fariau ar waith ar unrhyw un adeg sy’n rhoi pleser i’n hymwelwyr ac yn tanio'r dychymyg.
- Rydym yn chwilio am fodel rôl ar gyfer ein gwasanaeth cwsmeriaid, unigolyn a fydd yn mwynhau bodloni anghenion ein cwsmeriaid a syfrdanu ein hymwelwyr.
- Boed yn ein caffi/bar, Ffwrnais, sydd yn hyrwyddo'r cynnyrch Cymreig gorau neu noson wych yn Cabaret, mae gennym ni rywbeth ar gyfer pawb yma yn y Ganolfan, gyda thyfiant pellach cyffrous i ddod yn ddiweddarach eleni.
O fewn y rôl hon byddwch yn:
- Paratoi diodydd alcoholig a di-alcohol
- Cynorthwyo gwesteion lle’n berthnasol wrth ddewis bwyd a diod a sicrhau gwybodaeth lawn o’r holl gynnyrch sydd ar gael yn y Ganolfan
- Deall polisi'r Ganolfan mewn perthynas â defnyddio cynnyrch Cymreig a chydymffurfio â’r polisi hwn yn gyson·Sicrhau sylw at fanylder a dealltwriaeth o offer a thechnegau cymysgu diodydd
- Sicrhau bod pob ardal fasnachol yr ydych yn gweithio ynddynt yn edrych yn ddeniadol ac yn meddu ar lefelau uchel o lanweithdra a chyflwyniad
- Cydnabod a gweithredu yn unol ag anghenion unigol gwesteion wrth gydymffurfio â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol Bwyd a Diod, gan gymryd perchnogaeth lawn o'r digwyddiadau a'r shifftiau a ddyrannwyd i chi
- Trin arian parod a delio gyda thrafodion cardiau credyd/debyd, gan sicrhau bod taliadau'n gywir ac yn balansio.
Anghenion Allweddol:
- Gallu profedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.
- Profiad o weithio'n effeithlon ac effeithiol mewn amgylchedd gwasanaeth prysur.
- Yn gymwys a phrofiadol wrth drin arian parod.
- Gwybodaeth sylfaenol am safonau diogelwch bwyd.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Hyblygrwydd o ran oriau gwaith - dewiswch y shifftiau/oriau gwaith sy’n addas i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Hawl i bensiwn Now
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Gwersi Cymraeg am ddim ar-lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.