Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan
Cyflog: £28500 yn codi i £29500 ar ôl cwblhau setiau sgiliau ar ddiwedd chwe mis
Dyddiad Cau: 24/12/2024
Amdanom ni/Ein Hadran:
Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru. Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae’n croesawu artistiaid a chynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llwyddiant CMC yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddarpariaeth ei gwasanaethau technegol a’r defnydd o’i chyfleusterau o safon fyd-eang. Rydym yn chwilio am Dechnegydd i ymuno â ni a pharhau â’n llwyddiant.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
-Fel rhan o dîm o 15 o staff technegol byddwch yn gweithio ar y cynyrchiadau teithiol mwyaf yn y DU. Wedi'i seilio'n bennaf ar Lwyfan Donald Gordon, theatr sydd ag 1900 o seddau, bydd y rôl yn hwyluso'r broses o symud sioeau cerdd, opera, dawns a chomedi i mewn ac allan, a’u rhedeg.
-Mae CMC hefyd yn gartref i ddau leoliad arall, sef theatr stiwdio gyda 250 o seddi a lleoliad cabaret gyda 120 o seddi. O bryd i’w gilydd rydym yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau eraill sydd yn cael eu cynnal yn y lleoliadau hyn.
-Mae’r rôl yn atebol i’r Rheolwr Technegol (trydan).-Mae’r oriau gwaith yn seiliedig ar wythnos waith o 38.5 awr ar gyfartaledd ac yn hyblyg yn unol â galw sioeau.
Gofynion Allweddol:
-Yn hunan-gymhellol iawn gyda’r gallu i weithio'n dda o fewn tîm.
-Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, penwythnosau a Gwyliau Banc.
- Arbenigo mewn Llwyfan/Flys yn ogystal â bod yn barod i weithio mewn adrannau llwyfan eraill pan fo angen.
Beth sydd ynddo i chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, pro rata ar gyfer oriau rhan amser.
- Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.