Nod y fenter gyffrous hon, a ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy'r Gronfa Rhannu Ffyniant, yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy greu amgylchedd trefol llawn natur a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, yn ailfywiogi mannau cyhoeddus trwy greadigrwydd ac yn caniatáu i drigolion amrywiol gysylltu â'r byd naturiol, ac â'i gilydd.
Bydd 'Gwyrddio Cathays' yn gwneud hyn drwy weithio gyda'r gymuned leol i gyflawni nifer o weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys:
- Prosiect ymgysylltu sy'n gweithio gyda phlant ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a natur.
- Dylunio a datblygu 'llwybr gwenyn', gyda gweithgareddau mewn safleoedd allweddol yn ward Cathays a chanol dinas Caerdydd.
- Creu gardd lles a pheillwyr ar dir Ysgol Gynradd Fwslemaidd Caerdydd ar Heol Maendy.
- Adfywio tri phlannwr pren presennol ar Stryd Fanny, a gosod dau blannwr newydd ar Heol y Crwys.
- Prosiect creu lleoedd yng Ngorsaf Drenau Cathays i greu 'ystafell aros' awyr agored, werdd.
- Arddangosfa symudol dros dro (yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddechrau) yn arddangos amrywiaeth o asedau ac allbynnau sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
- Gweithio gyda grwpiau cymunedol, gan gynnwys Cadw Cathays yn Daclus.
- Amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo lles, cydlyniant cymdeithasol a chynnig cyfleoedd i drigolion lleol gysylltu â natur a'i gilydd.
Dywedodd Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney:
Mae pŵer creadigrwydd i ddod â chymunedau ynghyd, actifadu ein mannau cyhoeddus ac adrodd straeon newydd wrth galon popeth y mae Caerdydd Creadigol yn ei wneud. Am y rheswm hwnnw, rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrosiect Pharmabees yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd i gyflawni comisiynau Gwyrddio Cathays. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar hanes hir Caerdydd Creadigol o sicrhau bod ymarferwyr creadigol deinamig y ddinas yn cael y cyfle i ‘weld’ a mwynhau eu gwaith mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau. Mae hyn yn cynnwys comisiynau ‘Fy Nghaerdydd Creadigol’ (2020) ac ‘Ein Man Creadigol’ (2021), ymgyrch posteri Caerdydd Creadigol 2023 a’n 12 x comisiwn diweddaraf i rannu profiadau o greadigrwydd ar lawr gwlad fel rhan o’r prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (2024). Ni allaf aros i weld yr effaith a gaiff y cyfleoedd newydd hyn, o ran creu pwyntiau ffocws bywiog yn ein cymdogaethau lleol, ac wrth gefnogi mwy o fioamrywiaeth, phryfed a phlanhigion.
Cyfleoedd:
Mae tîm y prosiect nawr yn ceisio gweithio gydag artistiaid, ymarferwyr creadigol a chynhyrchwyr lleol i helpu i wireddu'r allbynnau hyn. Oherwydd hyn, mae'r saith cyfle comisiynu canlynol bellach yn fyw ac rydym yn chwilio am gyflwyniadau.
- Comisiwn 1 – Prosiect creu lleoedd ar dir sy'n eiddo i'r brifysgol yng Ngorsaf Drenau Cathays
- Comisiwn 2 – 'Llwybr Gwenyn' Cathays a Chanol Dinas Caerdydd
- Comisiwn 3 – Gardd lles a pheillwyr yn Heol Maendy
- Comisiwn 4 – Prosiect plannu coed
- Comisiwn 5 – Prosiect sbwriel ac ailgylchu Cadw Cathays yn Daclus
- Comisiwn 6 – Prosiect Creu Lleoedd yn Neuadd Prifysgol Roy Jenkins
- Comisiwn 7 – Arddangosfa dros dro Pharmabees (comisiwn cynhyrchu creadigol)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y comisiynau uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk.