Mae Caerdydd Creadigol yn partneru ag Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfle comisiwn

Ar hyn o bryd, mae Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect 'Pharmabees' Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd ar 'Gwyrddio Cathays', sy'n cynnwys 7 comisiwn i artistiaid. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 10 December 2024

Nod y fenter gyffrous hon, a ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy'r Gronfa Rhannu Ffyniant, yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy greu amgylchedd trefol llawn natur a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, yn ailfywiogi mannau cyhoeddus trwy greadigrwydd ac yn caniatáu i drigolion amrywiol gysylltu â'r byd naturiol, ac â'i gilydd. 

Bydd 'Gwyrddio Cathays' yn gwneud hyn drwy weithio gyda'r gymuned leol i gyflawni nifer o weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Prosiect ymgysylltu sy'n gweithio gyda phlant ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a natur. 
  • Dylunio a datblygu 'llwybr gwenyn', gyda gweithgareddau mewn safleoedd allweddol yn ward Cathays a chanol dinas Caerdydd.  
  • Creu gardd lles a pheillwyr ar dir Ysgol Gynradd Fwslemaidd Caerdydd ar Heol Maendy. 
  • Adfywio tri phlannwr pren presennol ar Stryd Fanny, a gosod dau blannwr newydd ar Heol y Crwys. 
  • Prosiect creu lleoedd yng Ngorsaf Drenau Cathays i greu 'ystafell aros' awyr agored, werdd. 
  • Arddangosfa symudol dros dro (yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddechrau) yn arddangos amrywiaeth o asedau ac allbynnau sy’n gysylltiedig â’r prosiect. 
  • Gweithio gyda grwpiau cymunedol, gan gynnwys Cadw Cathays yn Daclus. 
  • Amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo lles, cydlyniant cymdeithasol a chynnig cyfleoedd i drigolion lleol gysylltu â natur a'i gilydd. 

Dywedodd Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney:

Mae pŵer creadigrwydd i ddod â chymunedau ynghyd, actifadu ein mannau cyhoeddus ac adrodd straeon newydd wrth galon popeth y mae Caerdydd Creadigol yn ei wneud. Am y rheswm hwnnw, rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrosiect Pharmabees yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd i gyflawni comisiynau Gwyrddio Cathays. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar hanes hir Caerdydd Creadigol o sicrhau bod ymarferwyr creadigol deinamig y ddinas yn cael y cyfle i ‘weld’ a mwynhau eu gwaith mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau. Mae hyn yn cynnwys comisiynau ‘Fy Nghaerdydd Creadigol’ (2020) ac ‘Ein Man Creadigol’ (2021), ymgyrch posteri Caerdydd Creadigol 2023 a’n 12 x comisiwn diweddaraf i rannu profiadau o greadigrwydd ar lawr gwlad fel rhan o’r prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (2024). Ni allaf aros i weld yr effaith a gaiff y cyfleoedd newydd hyn, o ran creu pwyntiau ffocws bywiog yn ein cymdogaethau lleol, ac wrth gefnogi mwy o fioamrywiaeth, phryfed a phlanhigion.

An image of the commission promo

Cyfleoedd: 

Mae tîm y prosiect nawr yn ceisio gweithio gydag artistiaid, ymarferwyr creadigol a chynhyrchwyr lleol i helpu i wireddu'r allbynnau hyn. Oherwydd hyn, mae'r saith cyfle comisiynu canlynol bellach yn fyw ac rydym yn chwilio am gyflwyniadau.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y comisiynau uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event