Cydlynydd Tocynnau

Cyflog
Yn ddibynnol ar brofiad
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
09.12.2024
Profile picture for user Clwb Ifor Bach

Postiwyd gan: Clwb Ifor Bach

Dyddiad: 26 November 2024

Lleoliad cerddorol llawr gwlad, hyrwyddwr ac elusen yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy’n dod i’r amlwg ers dros 40 mlynedd. Ni yw’r clwb nos sydd wedi bod ar agor hiraf yng Nghaerdydd, ac un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, yn rhaglennu cerddoriaeth fyw a digwyddiadau clwb ledled y wlad, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn. Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, strategaeth rheoli cerddoriaeth annibynnol, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.

Rydym yn chwilio am Gyd-Lynydd Tocynnau i ymuno â’n tîm. Eich prif ffocws bydd rheoli a datblygu ein strategaeth tocynnau ar draws ein holl digwyddiadau, yn Clwb ifor Bach a lleoliadau arall led-led Cymru. Gan weithio yn ein tîm digwyddiadau mewnol bydd gan yr ymgeisydd delfyrdol profiad blaenorol mewn swydd tebyg a llygad craff am fanylion.

Mae’r cyfrifioldebau yn cynnwys rheoli dyraniadau tocynnau, rheoli a diweddaru ein gwefan a’n cylchlythyron digidol, paratoi manylion perthnasol ar gyfer diwrnod y sioe, pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau gan ein cwsmeriaid ac unrhyw waith perthnasol arall a bennir gan y Pennaeth Cerddoriaeth o bryd i’w gilydd. Er bod y swydd wedi’i lleoli yn y swyddfa yn bennaf, bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiadau yn rheolaidd.


Cyfrioldebau Allweddol

Tocynnau

  • Goruchwilio a gweinyddu ein holl tocynnau (digwyddiadau byw, nosweithiau dawns a gwyliau cerddorol).
  • Prif bwynt cyswllt ar gyfer holl ymholiadau tocynnau gan bartneriaid allanol; e.e  cwmniau tocynnau, hyrwyddwyr ac asiantaethau.
  • Delio gyda unrhyw materion tocynnau a mynediad i’n digwyddiadau; e.e. ymholiadau gan gwsmeriaid, gwesteion, tocynnau gofalwyr, ad-daliadau, cwynion a.y.y.b.
  • Goruchwilio dyraniad tocynnau gan sicrhau bod pob platform yn fyw trwy cyfnod y gwerthiant.
  • Cyd-weithio gyda’r tîm ehanghach i ddadansoddi patrymau gwerthiant i gryfhau’r strategaeth marchnata.
  • Sicrhau ymwybyddiaeth o’r tueddiadau (trends) yn y sector a chadw trosolwg o’r datblygiadau diweddaraf o rhan gweithrediadau tocynnau, gan gynnwys GDPR..

Gwefan / Cylchlythyr

  • Sicrhau bod yr holl digwyddiadau yn caei ei diweddaru ar y wefan a bod y cysylltiadau allanol yn fyw i gyoeddi’r gig
  • Creu cylchlythyron i hyrwyddo rhaglen cerddoriaeth byw y cwmni 
  • Datblygu strategaethau i gynyddu gwerthiant trwy gryfhau’r cysylltiada rhwng ein gwefan, cylchythyr a’n prif platform tocynnau.

Arall

  • Rheoli cyfrifion ebyst cyffredinol ac hygyrchedd
  • Diweddaru dogfennau digwyddiadau i sicrhau bod y Rheolwr Dyletswydd a chynrychiolydd y sioe ar y diwrnod yn hysbys o’r gwybodaeth perthnasol sydd angen arnynt i redeg y sioe yn effeithiol.

Profiad

Hanfodol

  • Profiad gweinyddol blaenorol
  • Sgiliau rhifedd cryf
  • Sgiliau trefnu da, y gallu i weithio o dan bwysau a gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol mewn amgylchedd gwaith cyflym
  • Medrus ar y cyfrifiadur, ac yn hyderus ac yn hyfedr gydag Excel a Word (neu raglenni cyfatebol ar Mac)
  • Yn gallu cymell eich hunan, yn brydlon, yn ddibynadwy, ac yn gallu cynnal cyfrinachedd
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Ymrwymiad i bolisïau ac arferion cyfle cyfartal, a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth

Dymunol

  • Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
  • Profiad blaenorol o weithio mewn swydd tebyg yn y diwydiannu creadigol.
  • Profiad o ddefnyddio Mailchimp neu lwyfannau cylchlythyron eraill
  • Diddordeb brwd mewn cerddoriaeth gyfoes, gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau

Manteision

  • Digwyddiadau clwb a gigs am ddim!
  • Gostyngiad yn y bar
  • Swyddfa yng nghanol y brifddinas
  • Amser hyblyg
  • Gweithio hybrid
  • Swyddfa’n cau dros y Nadolig
  • Amgylchedd a diwylliant gweithio cymdeithasol iawn
  • Cyfleoedd rheolaidd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad
  • Teithiau gwaith
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event