Lleoliad cerddorol llawr gwlad, hyrwyddwr ac elusen yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy’n dod i’r amlwg ers dros 40 mlynedd. Ni yw’r clwb nos sydd wedi bod ar agor hiraf yng Nghaerdydd, ac un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, yn rhaglennu cerddoriaeth fyw a digwyddiadau clwb ledled y wlad, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn. Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, strategaeth rheoli cerddoriaeth annibynnol, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.
Rydym yn chwilio am Gyd-Lynydd Tocynnau i ymuno â’n tîm. Eich prif ffocws bydd rheoli a datblygu ein strategaeth tocynnau ar draws ein holl digwyddiadau, yn Clwb ifor Bach a lleoliadau arall led-led Cymru. Gan weithio yn ein tîm digwyddiadau mewnol bydd gan yr ymgeisydd delfyrdol profiad blaenorol mewn swydd tebyg a llygad craff am fanylion.
Mae’r cyfrifioldebau yn cynnwys rheoli dyraniadau tocynnau, rheoli a diweddaru ein gwefan a’n cylchlythyron digidol, paratoi manylion perthnasol ar gyfer diwrnod y sioe, pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau gan ein cwsmeriaid ac unrhyw waith perthnasol arall a bennir gan y Pennaeth Cerddoriaeth o bryd i’w gilydd. Er bod y swydd wedi’i lleoli yn y swyddfa yn bennaf, bydd disgwyl i chi fynd i ddigwyddiadau yn rheolaidd.
Cyfrioldebau Allweddol
Tocynnau
- Goruchwilio a gweinyddu ein holl tocynnau (digwyddiadau byw, nosweithiau dawns a gwyliau cerddorol).
- Prif bwynt cyswllt ar gyfer holl ymholiadau tocynnau gan bartneriaid allanol; e.e cwmniau tocynnau, hyrwyddwyr ac asiantaethau.
- Delio gyda unrhyw materion tocynnau a mynediad i’n digwyddiadau; e.e. ymholiadau gan gwsmeriaid, gwesteion, tocynnau gofalwyr, ad-daliadau, cwynion a.y.y.b.
- Goruchwilio dyraniad tocynnau gan sicrhau bod pob platform yn fyw trwy cyfnod y gwerthiant.
- Cyd-weithio gyda’r tîm ehanghach i ddadansoddi patrymau gwerthiant i gryfhau’r strategaeth marchnata.
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r tueddiadau (trends) yn y sector a chadw trosolwg o’r datblygiadau diweddaraf o rhan gweithrediadau tocynnau, gan gynnwys GDPR..
Gwefan / Cylchlythyr
- Sicrhau bod yr holl digwyddiadau yn caei ei diweddaru ar y wefan a bod y cysylltiadau allanol yn fyw i gyoeddi’r gig
- Creu cylchlythyron i hyrwyddo rhaglen cerddoriaeth byw y cwmni
- Datblygu strategaethau i gynyddu gwerthiant trwy gryfhau’r cysylltiada rhwng ein gwefan, cylchythyr a’n prif platform tocynnau.
Arall
- Rheoli cyfrifion ebyst cyffredinol ac hygyrchedd
- Diweddaru dogfennau digwyddiadau i sicrhau bod y Rheolwr Dyletswydd a chynrychiolydd y sioe ar y diwrnod yn hysbys o’r gwybodaeth perthnasol sydd angen arnynt i redeg y sioe yn effeithiol.
Profiad
Hanfodol
- Profiad gweinyddol blaenorol
- Sgiliau rhifedd cryf
- Sgiliau trefnu da, y gallu i weithio o dan bwysau a gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol mewn amgylchedd gwaith cyflym
- Medrus ar y cyfrifiadur, ac yn hyderus ac yn hyfedr gydag Excel a Word (neu raglenni cyfatebol ar Mac)
- Yn gallu cymell eich hunan, yn brydlon, yn ddibynadwy, ac yn gallu cynnal cyfrinachedd
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Ymrwymiad i bolisïau ac arferion cyfle cyfartal, a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
Dymunol
- Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
- Profiad blaenorol o weithio mewn swydd tebyg yn y diwydiannu creadigol.
- Profiad o ddefnyddio Mailchimp neu lwyfannau cylchlythyron eraill
- Diddordeb brwd mewn cerddoriaeth gyfoes, gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau
Manteision
- Digwyddiadau clwb a gigs am ddim!
- Gostyngiad yn y bar
- Swyddfa yng nghanol y brifddinas
- Amser hyblyg
- Gweithio hybrid
- Swyddfa’n cau dros y Nadolig
- Amgylchedd a diwylliant gweithio cymdeithasol iawn
- Cyfleoedd rheolaidd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad
- Teithiau gwaith