Rheolwr Canolfan EVI

Cyflog
Cyflog Cychwynnol £37,000 pa. Graddfa D4. Cynyddiad blynyddol yn codi hyd at £43,000
Location
Glynebwy
Oriau
Full time
Closing date
30.11.2024
Profile picture for user ProMoCymru

Postiwyd gan: ProMoCymru

Dyddiad: 19 November 2024

Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? 

Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. 

 

Yr hyn byddech chi’n ei wneud:

– Arwain gydag Angerdd: Ysbrydoli ein tîm ac aelodau’r gymuned i gyrraedd uchelfannau newydd. 

– Rheoli’n Effeithlon: Goruchwylio’r gweithrediadau o ddydd i ddydd, sicrhau canolfan sydd yn rhedeg yn esmwyth. 

– Datblygu gyda Gweledigaeth: Adnabod cyfleoedd tyfiant a gweithredu rhaglenni arloesol. 

– Cydweithio â Phwrpas: Cynnal perthnasau cryf gyda rhanddeiliaid, partneriaid, a thenantiaid. 

– Ymgysylltu’n Frwdfrydig: Meithrin synnwyr o berthyn gyda digwyddiadau a gweithgareddau difyr.  

 

Yr hyn sydd ei angen arnoch: 

– Angerddol: Yn credu yng ngrym cymuned ac wedi ymrwymo i gael effaith bositif. 

– Trefnus: Aml-dasgwr medrus sydd yn gallu ymdrin â sawl cyfrifoldeb yn rhwydd. 

– Creadigol: Yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs a datblygu datrysiadau arloesol.  

– Cydweithredol: Yn rhan o dîm sydd yn gallu gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol. 

– Gwydn: Yn gallu addasu i newid a goresgyn heriau gydag agwedd bositif. 

 

Yr hyn rydych chi’n ei gynnig:  

– Angerdd dwfn dros ddatblygu cymunedau a mentrau diwylliannol. 

– Profiad profedig mewn rheoli prosiectau, arwain tîm, a rheolaeth ariannol. 

– Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i feithrin perthynas â phobl o bob cefndir. 

– Meddylfryd creadigol ac arloesol, wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd i gyfoethogi cynigion y Ganolfan. 

– Agwedd hunan cychwynnol gyda’r gallu i flaenoriaethu tasgau a gweithio’n annibynnol. 

 

Ymunwch â ni i greu dyfodol disglair i’n cymuned! 

Ymholiadau: people@promo.cymru neu 0736 634686  

Os ydych chi’n barod i wynebu’r her gyffrous yma, cyflwynwch eich cais. 

Dyddiad Cau:  12pm Tachwedd 30th 2024 

Dyddiadau Cyfweld: Rhagfyr 17th,18th 2024. 

E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event