Rydym yn chwilio am Arweinydd Cyfathrebu creadigol, uchelgeisiol a dawnus i helpu i ddiogelu a chynyddu proffil ac enw da Amgueddfa Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Wrth i ni edrych i'r dyfodol, mae Amgueddfa Cymru'n newid - gyda'r nod o ddarparu staretgy sy'n cael effaith gadarnhaol ar bobl ac ymwelwyr Cymru. Rydym yn gweithio gyda hyder, argyhoeddiad ac uniondeb i helpu i gysylltu pobl â stori Cymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ofalu am y casgliad cenedlaethol a dod ag ef yn fyw, fel bod pawb yn gallu dod i ddod o hyd i’w lle eu hunain ynddo.
Gan weithio gyda'r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno strategaethau a chynlluniau cyfathrebu effeithiol i gefnogi blaenoriaethau strategol.
Mae'r tîm Marchnata a Chyfathrebu yn gweithio mewn amgylchedd marchnata a chyfathrebu cyflym, cymhleth ac esblygol, sy'n gofyn am lefelau uchel o angerdd, egni a chynhyrchiant.
Gan reoli'r holl gyfathrebiadau mewnol ac allanol, byddwch yn creu ac yn darparu cynnwys creadigol ac addysgiadol sy'n ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ac yn adeiladu cydnabyddiaeth â'r brand. Gyda dawn naturiol ar gyfer creu a chyflwyno straeon, bydd gennych brofiad profedig o sicrhau sylw cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau sy'n ymgysylltu ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol.
Os ydych chi'n feddyliwr creadigol sy'n gallu gweld y darlun mawr ac sydd â'r awydd i wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.